Wythnos Addysg Oedolion yn Amgueddfa Cymru 2026
Ym mis Medi bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion eto ar draws ein saith amgueddfa, gyda rhaglen addysg amrywiol i oedolion drwy gydol y mis.
Beth am fanteisio ar y cyfle i ymweld ag un o'n hamgueddfeydd a darganfod ein casgliadau, ein safleoedd a'n lleoliadau gwych? Yma mae amrywiaeth o adnoddau addysg i'ch cefnogi chi, gan gynnwys adnoddau Cymraeg ac ESOL, llwybrau a theithiau meddwlgarwch, ffilmiau 360° o'r orielau a'r adeiladau hanesyddol, teithiau treftadaeth diddorol, a llyfrynnau llên gwerin.
- Gallwch chi ychwanegu at eich ymweliad drwy gadw lle ar un o'r gweithgareddau addysg sydd ar gael.
- Mae'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau am ddim, ond rydyn ni'n codi tâl bach ar gyfer rhai.
- Os ydych chi wedi archebu lle ond wedyn yn methu ymuno â ni, rhowch wybod cyn gynted â phosib. Mae'n bosib y byddwn ni'n codi tâl gweinyddol fel arall.
- Mae pob safle a gofod addysg yn gwbl hygyrch. Ar ein gwefan mae gwybodaeth hygyrchedd yr amgueddfeydd unigol.
Mae manylion y rhaglen lawn i'w gweld isod: