Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Ofergoelion a Llên Gwerin

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i ni ailddarganfod y llên gwerin a'r ofergoelion oedd yn rhan mor bwysig o fywyd bob dydd i'n cyndeidiau. Ar ôl ymweld â rhai o'r adeiladau, bydd cyfle i fwynhau gweithgaredd crefft ysgafn.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

· Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol

· Cyfle i grwydro a mwynhau'r amgueddfa allanol

· Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa. Mae'r daith yn para tua 3 awr, gyda digon o oedi a lluniaeth. Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Sain Ffagan.

Mae'r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Os ydych chi wedi archebu lle ond wedyn yn methu ymuno â ni, rhowch wybod cyn gynted â phosib. Mae'n bosib y byddwn ni'n codi tâl gweinyddol fel arall.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.


Gwybodaeth

20 Ionawr 2027, 1-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Mae gŵr mewn gwisg gyfnod yn sefyll y tu mewn i ofod byw tywyll, gan edrych allan drwy’r ffenestr. Mae tân yn llosgi yn yr aelwyd.

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
20 Ionawr 2027 13:00 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Oriau Agor

Tan Dydd Sul 1 Tachwedd 2026

Dydd Llun 10 am–5 pm
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm

Oriau Agor y Gaeaf — O Dydd Llun 2 Tachwedd 2026

Dydd Llun 10 am–4 pm
Dydd Mawrth 10 am–4 pm
Dydd Mercher 10 am–4 pm
Dydd Iau 10 am–4 pm
Dydd Gwener 10 am–4 pm
Dydd Sadwrn 10 am–4 pm
Dydd Sul 10 am–4 pm

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Lleoliad

Caerdydd   
CF5 6XB

  Map a Sut i Gyrraedd Yma

 Mynediad

  Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

 Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau