Digwyddiad:Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Argraffiadaeth Ffrengig ac Ôl-Argraffiadaeth
Taith Sain Ddisgrifiad | Argraffiadaeth Ffrengig ac Ôl-Argraffiadaeth | 14/01/2027 | 13:00
Ymunwch â ni am daith am ddim i ymwelwyr dall a nam ar eu golwg. Trwy sain-ddisgrifiad, byddwn yn archwilio'r paentiadau Monet sy'n cael eu harddangos yn ogystal â gwaith rhai o'r artistiaid Argraffiadol ac Ôl-Argraffiadol eraill yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
- Bydd y daith hon yn ddwyieithog.Saesneg.
- Oedran addasrwydd: 18+
- Bydd y daith yn para tua 120 munud.
- Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod â chynorthwy-ydd personal.
Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â chynorthwy-ydd personal, neu gi cymorth, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer.
Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth hygyrchedd am Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yma.
NMW A 2484, Claude Monet, Lilïau Dŵr , 1905
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 14 Ionawr 2027 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
Mwy o gynnwys
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadParcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd