Aberfan 60: Adnoddau Dysgu

Aberfan wedi’i weld o’r awyr

Archwiliwch hanes, gwaddol ac arwyddocâd parhaus trychineb Aberfan drwy gasgliad newydd o adnoddau dysgu a grëwyd i nodi Aberfan 60. Wedi’u cynllunio i helpu ysgolion i archwilio’r hanes hwn mewn ffordd sensitif a myfyriol, mae’r adnoddau’n tynnu ar wrthrychau, straeon ac archifau o’n casgliadau ac yn cynnwys deunyddiau dysgu digidol, canllawiau i athrawon a deunyddiau dysgu proffesiynol.

Mae’r adnoddau’n rhan o Stori Cymru, prosiect cenedlaethol a ariennir gan Adnodd ac a arweinir gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau treftadaeth a diwylliant o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), Cadw, Castell Cyfarthfa a nifer o bartneriaid eraill.

Gweithdai Perthnasol

Gweithdai Rhithwir Thematig

Adnoddau i'w defnyddio yn yr Amgueddfa

Adnoddau Ystafell Ddosbarth