Aberfan 60
Casgliadau
Yn 2022 cafodd cloc bach ei roi yng ngofal Amgueddfa Cymru – cloc a stopiodd am 9.13am, yr union amser y tarodd tomen o lo bentref Aberfan. Mae'r cloc yn pontio profiad bywyd gwirioneddol a chof cenedl.
Yn 2022 fe ddechreuodd Amgueddfa Cymru raglen ehangach o gasglu yng nghymuned Aberfan a'r cyffiniau, gan gynnwys eitemau personol, atgofion, a hanes llafar sy'n cofnodi effaith hirdymor y drychineb a sut mae'n siapio hunaniaeth bersonol, gymunedol a chenedlaethol hyd heddiw. Mae'r gwaith hwn yn dangos ymrwymiad Amgueddfa Cymru i gasglu, gan ganolbwyntio ar wybodaeth gymunedol a phrofiad bywyd.