Aberfan 60
Tua 9.13 ar 21 Hydref 1966 llithrodd tomen lo glofa Merthyr Vale ar bentref Aberfan, gan ladd 116 o blant a 28 oedolyn.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Amgueddfa Cymru wedi cydweithio â phobl o Aberfan a'r cyffiniau i gasglu gwrthrychau, atgofion a hanes llafar sy'n drodd hanes y drychineb a'r dyddiau canlynol. Rydyn ni wedi defnyddio'r cyfraniadau hyn i greu Aberfan 60 – rhaglen o gofio, myfyrio a dysgu i nodi 60 mlynedd ers y drychineb.
Mae Aberfan 60 yn plethu straeon personol, hanesion llafar, gwrthrychau a deunydd archif i rannu profiadau pawb gafodd eu heffeithio, ac effaith parhaus y drychineb ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae'n casglu ynghyd y cof am bawb fu farw, profiadau'r teuluoedd a'r gymuned, a sut mae Aberfan yn cael ei gofio ar draws Cymru hyd heddiw.