Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu dau wythnos ymlaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3240, neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk i gadw lle. Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o’ch archeb wedyn. Cofiwch ddarllen hwn yn ofalus.
Archebwch ymweliadau ysgol bythefnos ymlaen llaw os yn bosib.
Bydd aelod o staff yr adran addysg yn cwrdd â chi yn y brif beuadd I wneud yn si wr eich bod chi’n cael y gorau o'ch ymweliad.
Gofynnwn i ddosbarthiadau rannu'n grwpiau llai (gydag oedolyn cyfrifol i bob un) wrth grwydro’r Amgueddfa. Mae rhagor o gyngor am feintiau grwpiau a goruchwylio yn y wybodaeth Iechyd a Diogelwch isod.
Mae cypyrddau clo mawr ar gael i grwpiau gadw eiddo tra’n crwydro’r Amgueddfa. Os yw'r cypyrddau i gyd yn llawn, bydd yn rhaid i grwpiau gadw eu heiddo gyda nhw. Gall grwpiau archebu ymlaen llaw i ddefnyddio ystafell frechdanau dros ginio. Dim ond un grŵp neu ysgol all ddefnyddio'r ystafell frechdanau ar y tro. Os nad yw’r ystafell frechdanau ar gael gall grwpiau fwyta eu cinio ar y gwair o flaen yr amgueddfa os y’r tywydd yn caniatáu.
Mae’n bosib y bydd y profiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn wahanol i’r arfer, ac allwn ni ddim gwarantu ymlaen llaw pa orielau neu ofodau fydd ar agor. Wrth i chi gyrraedd yr Amgueddfa gall y tîm Addysg ddweud pa orielau a gofodau sydd ar agor.
Bydd angen i'r grŵp rannu’n grwpiau llai, gyda phwyntiau cychwyn gwahanol yn dilyn y system unffordd.
Nid oes loceri ar gael, felly bydd angen i grwpiau gadw eu heiddo gyda nhw.
Nid yw'r ystafell frechdanau ar gael, ond gall grwpiau fwyta eu cinio ar y gwair o flaen yr Amgueddfa, os yw'r tywydd yn caniatáu.
Codir tâl am sesiynau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm, a sydd dan arweiniad staff yr amgueddfa. Mae pedwar pris gwahanol (heb gynnwys TAW):
Mae grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig yn gymwys ar gyfer sesiynau am ddim.
Anfonir anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad. Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW ond gall y rhan fwyaf o ysgolion ei hawlio’n ôl gan eu Hawdurdod Lleol.
Os caiff ymweliad ei ganslo wedi 10am ar y diwrnod blaenorol, neu os yw grŵp yn hwyr yn cyrraedd ac yn colli eu sesiwn, bydd yn rhaid talu’r pris llawn. Gellir codi tâl trafod o £25 am ganslo neu newid archeb. Os yw eich amgylchiadau’n newid, cysylltwch â’r tîm Addysg cyn gynted â phosibl er mwyn i ni roi eich lle i grŵp arall. Ffôn (029) 2057 3240. Gadewch neges ar y peiriant ateb os yw’r llinell yn brysur.
Dydd Mawrth i ddydd Sul, 10am – 5pm.
Cofiwch fod y swyddfa addysg ar gau ar benwythnosau a phob gŵyl y banc.
Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau asesiad risg ar gael yma .
Gall bysiau ollwng a chodi grwpiau o flaen prif fynedfa’r amgueddfa. Am gyfarwyddiadau a chysylltiadau cludiant, ewch yma .
Mae canllawiau mynediad ar gael yma.
Cofrestrwch yn y Dderbynfa fel arweinydd grŵp a cofiwch ddod â chadarnhad o’ch archeb gyda chi.
Bydd aelod o staff yr adran addysg yn cwrdd â chi yn y brif beuadd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael y gorau o'ch ymweliad.
Bydd aelod staff yn cyfarfod â chi yn y Brif Neuadd ar gyfer unrhyw sesiynau sydd wedi'u harchebu o flaen llaw, ar yr amser cychwyn a gytunwyd.
Gallwch archebu lle ymlaen llaw i fwyta pecyn cinio yn Ystafell Clore, ar gyfer grwpiau o hyd at 60 am hanner awr ar y tro. Cofiwch fynd â’ch sbwriel adref i’w ailgylchu.
Gallwch adael cotiau a bagiau mewn cypyrddau clo mawr. Os yw'r cypyrddau i gyd yn llawn, bydd yn rhaid i grwpiau gadw eu heiddo gyda nhw.
Mae croeso i chi dynnu lluniau at ddibenion personol ac eithrio’r llefydd sy’n dangos y symbol hwn.
Rydym yn gofyn i’r holl ymwelwyr sy’n tynnu lluniau â chamera lofnodi ffurflen yn nesg y dderbynfa.
Peidiwch â defnyddio’ch ffôn symudol yn yr Orielau er cwrteisi i ymwelwyr eraill.
Mae’r siop yn gwerthu pob math o nwyddau amrywiol fel teganau bach, llyfrau a chardiau post. Helpwch i oruchwylio’ch grŵp drwy sicrhau nad oes mwy na 6 phlentyn yn y siop ar y tro.
Cofiwch gadw llygaid ar blant a phobl ifanc dan 14 drwy’r amser.
Peidiwch â rhedeg yn yr Orielau a chymerwch ofal wrth gerdded i fyny ac i lawr y grisiau.
Peidiwch â chyffwrdd â gwrthrychau, sbesimenau neu baentiadau, a pheidiwch â gadael olion bysedd ar y casys gwydr. Cewch gyffwrdd â chreigiau a mwynau yn Orielau Esblygiad Cymru, ac mae croeso i chi drin a thrafod gwrthrychau a sbesimenau yng Nghanolfan Ddarganfod Clore. Gallwch archebu ymweliad ymlaen llaw â Chanolfan Ddarganfod Clore, fel rhan o’ch ymweliad.
Cyfrifoldeb yr athrawon a’r oedolion sydd gyda’r grŵp yw ymddygiad pob disgybl sy’n ymweld ag Amgueddfa Cymru. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer grwpiau ac ysgolion sy’n ymweld yma .
Mae’r rhain ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am gynefino â’r Amgueddfa. Ffoniwch i drefnu ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno siarad ag aelod o’r tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.
Os ydych chi’n bwriadu dod i weld gweithiau celf, sbesimenau neu arteffactau penodol, cofiwch wirio eu bod yn cael eu harddangos. Efallai y bydd anghenion cadwraeth, benthyciadau ac ailwampio yn arwain at newid arddangosfeydd.
Os bydd tân, bydd larwm yn canu. Dylai’ch grŵp adael yr adeilad trwy ddilyn yr arwyddion i’r allanfa agosaf. Cewch gyfarwyddiadau gan Gynorthwywyr yr Amgueddfa.
Os bydd angen cymorth cyntaf, cysylltwch ag un o gynorthwywyr neu hwyluswyr yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.
Dywedwch wrth blant am roi gwybod i aelod o staff yr Amgueddfa os ydyn nhw ar goll. Bydd Cynorthwyydd yr Amgueddfa yn cysylltu â’r grŵp ac yn trefnu bod y plentyn yn cael ei hebrwng i’r Brif Neuadd er mwyn i oedolyn o’r grŵp ei gasglu.
Os bydd unrhyw argyfwng arall, cysylltwch â Chynorthwyydd yr Amgueddfa.
Mae polisi amddiffyn plant, pobl Ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed ar ein gwefan yma.
Mae croeso i chi darlunio ym mhob oriel. Byddwch yn ofalus, fodd bynnag, gan ei bod hi’n hawdd difrodi gweithiau celf. Er mwyn lleihau peryglon o’r fath, dilynwch y canllawiau canlynol: