Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu pob ymweliad o leiaf pythefnos ymlaen llaw. Ffoniwch: (029) 2057 3424 E-bost: addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk Mae ein horiau archebu 9am tan 4.30pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Neilltuwch o leiaf 3 awr ar gyfer eich ymweliad i gael gweld popeth sydd gan yr Amgueddfa i’w gynnig. Mae grwpiau sydd wedi archebu ymlaen llaw yn cael y fantais o fynediad am ddim a lle parcio bws neu fws mini am ddim. Rydyn ni ar agor saith diwrnod yr wythnos a’r rhan fwyaf o wyliau cyhoeddus, rhwng 10am a 5pm. Sylwer: mae’r swyddfa archebu addysg ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.
Mae’r Amgueddfa ond yn codi tâl am weithgareddau dan arweiniad yr Amgueddfa. Gallwch chi weld beth sydd ymlaen ar ein gwefan: Archwilio gweithgareddau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru | Amgueddfa Cymru Codir tâl am sesiynau dan arweiniad staff yr Amgueddfa sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm. Mae tri phris gwahanol (heb gynnwys TAW):
Mae grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig yn gymwys i gael sesiynau am ddim.
Bydd ein Hadran Gyllid yn anfon anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad. Nid yw’r pris yn cynnwys TAW ond mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn gallu ei hawlio’n ôl gan yr Awdurdod Lleol.
Os byddwch yn canslo ar ôl 10am ar y diwrnod, neu fod y grŵp yn hwyr ar y diwrnod ac yn methu’r sesiwn, rhaid i chi dalu pris llawn y sesiwn. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd ffi weinyddol o £25 os byddwch yn addasu neu ganslo’r archeb.
Rydyn ni’n deall y gall amgylchiadau newid, a gofynnwn i chi roi gwybod i’r Tîm Addysg cyn gynted â phosibl os ydych chi angen canslo neu addasu eich archeb. Bydd hyn yn ein galluogi i roi eich lle i grŵp arall a sicrhau profiad hwylus i bob ymwelydd.
Rydyn ni ar agor saith diwrnod yr wythnos a’r rhan fwyaf o wyliau cyhoeddus, rhwng 10am a 5pm. Sylwer: mae’r swyddfa archebu addysg ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.
Dilynwch y ddolen i weld gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau asesiad risg [PDF]
Rhaid i bob plentyn/disgybl 16 oed neu iau gael eu goruchwylio bob amser.
Cymhareb oedolyn/plant:
Mae lle parcio bysiau ym maes parcio’r Amgueddfa. Byddwch chi’n cael eich arwain atyn nhw wrth gyrraedd. Dilynwch y ddolen i weld cyfarwyddiadau a chysylltiadau trafnidiaeth.
Mae mynediad cadair olwyn i’r rhan fwyaf o’r safle, ond mynediad cyfyngedig sydd i rai adeiladau hanesyddol. Mae’r tir ar ochr y Castell yn yr Amgueddfa yn serth mewn mannau a gall fod yn drafferthus. Mae’n bosibl benthyg cadair olwyn yn y brif fynedfa. Dros yr haf, rydyn ni hefyd yn darparu gwasanaeth trên bach sy’n rhedeg yn rheolaidd, yn cludo ymwelwyr o un ochr y safle i’r llall. Dilynwch y ddolen i weld y Canllawiau Mynediad
Bydd ymwelwyr yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn yr awyr agored yn yr Amgueddfa, felly dewch â dillad sy’n addas ar gyfer pob math o dywydd. Gall y llwybrau fod yn fwdlyd yn y gaeaf – dewch ag esgidiau addas.
Bydd staff yr Amgueddfa yn nerbynfa’r Ganolfan Ddysgu i’ch croesawu chi. Fe wnawn nhw gadarnhau manylion eich ymweliad ac ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych chi. Mae’n bwysig ein bod yn gwybod yn union faint o ymwelwyr sy’n eich grŵp chi.
Dylid cymryd pob gofal wrth groesi’r maes parcio. Dylai’r grwpiau aros ar y bws nes bod arweinydd y grŵp wedi mewngofnodi – os yn bosibl.
Mae llawer o opsiynau bwyd a diod ar y safle. Mae’r lluniaeth amrywiol sydd ar gael mewn gwahanol sefydliadau yn cynnwys bwyd poeth ac oer, cacennau, detholiad o ddiodydd a mwy. Os hoffech wneud unrhyw drefniadau bwyd a diod ar gyfer eich ymweliad, cysylltwch â ni.
Mae ‘Uned Lleoedd Newid’ ar gael yn yr Amgueddfa sy’n cynnwys gwely electronig ac offer codi yn ogystal â thoiled. Mae’n bosibl cael mynediad i’r uned gan ddefnyddio goriad ‘radar’. Gofynnwch amdano wrth y dderbynfa yn y Brif Fynedfa.
Mae mapiau allwch chi eu hargraffu yn cael eu hanfon gyda’r e-bost cadarnhau archeb, neu fel arall mae mapiau ar gael i’w prynu ar y safle am 50c.
Bydd croeso cynnes i’ch grŵp yn y siop. Mae’r siop yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau, gan gynnwys teganau bach, llyfrau a chardiau post. Fodd bynnag, bydd angen i chi ymweld mewn grwpiau bach yn ystod eich ymweliad. Fel arall, gallwch archebu pecynnau rhodd yn llawn eitemau ‘arian poced’ ymlaen llaw, a thalu ar ddiwrnod eich ymweliad. Am fwy o fanylion ffoniwch staff y siop ar (029) 2057 3412.
Mae’n bosibl i athrawon neu arweinwyr grŵp sydd eisiau ymgynefino yn yr Amgueddfa gael ymweliad rhagflas. Ffoniwch i wneud trefniadau ymlaen llaw os hoffech siarad ag aelod o’r Tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.
Mae sawl crefftwr yn yr Amgueddfa, gan gynnwys y gof, clocsiwr, melinydd gwlân, a melinydd ŷd, yn cynnal arddangosiadau a sgyrsiau ar gyfer y cyhoedd a grwpiau addysgol. Os oes diddordeb gan eich grŵp mewn crefft benodol, cysylltwch â’r Tîm Addysg ymlaen llaw i weld beth sydd ar gael.
Os oes angen cymorth cyntaf arnoch chi, cysylltwch ag aelod o staff yr Amgueddfa fydd yn galw rhywun sydd wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf.
Dywedwch wrth blant os ydyn nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth eu grŵp i roi gwybod i aelod o staff yr Amgueddfa os ydyn nhw ar goll. Os bydd arweinydd grŵp yn sylwi bod rhywun ar goll, dylen nhw ddweud wrth un o’r cynorthwywyr neu staff yr Amgueddfa a fydd yn cymryd y camau priodol.
Os oes unrhyw argyfwng arall, cysylltwch ag aelod o staff yr Amgueddfa.
Dilynwch y ddolen i weld Polisi Diogelu Plant yr Amgueddfa.