Portread o Teddy Evans o'r Antarctig, Evans y Broke (1880-1957)
Pan gafodd y llun hwn ei beintio ym 1937, roedd y Llyngesydd Syr Edward Ratcliffe Garth Russell Evans yn 57 mlwydd oed ac yn Gadbennaeth, The Nore, gorsaf reoli'r Llynges Frenhinol yn Chatham, Caint. Roedd wedi cael gyrfa nodedig ar y môr, yn enwedig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan arweiniodd long HMS Broke i hyrddio yn erbyn distrywlong Almaenig mewn brwydr ger arfordir Dover ym 1917.
Ond roedd yn adnabyddus hefyd fel Ail Gomander yn ystod alldaith olaf Capten Scott i'r Antarctig rhwng 1910 a 1913.
Mae'r paentiad hwn yn rhan o gyfres o ugain portread o Gymry amlwg a gomisiynodd Syr Leonard Twiston Davies ym 1937 ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol, gan yr arlunydd Sydney Morse-Brown (1903-2001), Prifathro Ysgol Gelf Caerfyrddin ac Arolygydd Celf Ysgolion Cymru. Cafodd eraill eu dethol o feysydd amrywiol dros ben; gan gynnwys y dramodydd a'r actor Emlyn Williams (1905-1987), Dr Thomas Jones (1870-1955) cyn-ysgrifennydd i'r Cabinet, David Davies, Arglwydd Davies y Cyntaf o Landinam (1880-1944), y pensaer Clough Williams-Ellis (1883-1978), y nofelwyr Richard Hughes (1900-1976), Charles Morgan (1894-1958) a Hilda Vaughan (1892-1985) a Jimmy Wilde, paffiwr a phencampwr pwysau pryf y byd (1892-1969).
Roedd Evans yn honni bod ganddo waed Cymreig, er mai braidd yn annelwig yw'r cefndir hwnnw mewn gwirionedd. Cafodd ei eni ar 28 Hydref 1880 ym Marylebone Llundain; yn fab i frodor o Oldham, Swydd Gaerhirfryn lle'r oedd ei dad yntau, Henry Edwin Evans, yn cadw siop.
Wedi plentyndod digon cythryblus, ymunodd Evans â'r Llynges Frenhinol ym 1896. Ym 1902, fel is-gapten, gwasanaethodd Evans fel ail swyddog ar long y Morning, un o ddwy a anfonwyd gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i helpu i ryddhau'r Discovery, llong alldaith gyntaf Scott, o'r rhew yn McMurdo Sound yn yr Antarctig.
Ym 1909, manteisiodd Evans ar ei dras Gymreig niwlog er mwyn denu cefnogaeth yng Nghaerdydd ar gyfer Alldaith Genedlaethol Gymreig i'r Antarctig. Ond ymhen ychydig fisoedd, clywodd am gynlluniau Capten Scott i ddychwelyd i'r Antarctig a chafodd wahoddiad i ymuno ag ef fel yr ail gomander. Llwyddodd i ddenu cymaint o nawdd o Gaerdydd a gweddill Cymru, nes Scott benderfynu defnyddio Caerdydd fel cartref y Terra Nova, llong yr alldaith.
Yn ystod ail alldaith Scott (a'r olaf), ymunodd Evans â William Lashly a Tom Crean, fel aelod o'r criw sled wrth gefn a deithiodd gyda Scott o fewn 150 milltir i Begwn y De, cyn troi'n ôl ar 4 Ionawr 1912, a gadael Scott, Lawrence Oates, Edward Wilson, Henry Bowers ac Edgar Evans i barhau tua'r Pegwn. Teddy Evans, Lashly a Crean oedd y rhai olaf i weld Scott a'i griw yn fyw.
Bu bron i Evans farw wrth ddychwelyd i gaban cychwynnol y daith. Ac yntau'n dioddef o'r llwg, bu'n rhaid i Lashly a Crean ei lusgo ar y sled. Ar 18 Chwefror 1912, straffaglodd Crean ar ei ben ei hun am y 35 milltir olaf i chwilio am gymorth, gan adael Lashly i ofalu am Evans a oedd bellach yn ddifrifol wael. Cyflwynwyd Medal Albert i Crean a Lashly yn ddiweddarach, am achub bywyd Evans.
Wedi cyfnod o adferiad yn Lloegr, dychwelodd Evans i'r Antarctig yn feistr ar y Terra Nova er mwyn casglu aelodau'r alldaith a chriw'r pegwn. Ar ôl cyrraedd caban cychwynnol y daith, a'r llong wedi'i haddurno yn barod i ddathlu'r gamp o gyrraedd Pegwn y De, clywodd y newyddion trist fod Scott a'i gymdeithion wedi marw ar y ffordd yn ôl. Roedd Evans bellach yn gyfrifol am arwain yr alldaith, a dychwelodd y Terra Nova yn ôl i Ddoc y Rhath, Caerdydd, ar 14 Mehefin 1913.
Penllanw gyrfa Evans oedd cael ei urddo'n Farwn cyntaf Mountevans ym 1945. Bu farw yn Norwy ar 20 Awst 1957.