Tarddiad Cerrig Gleision Côr y Cewri
Mae tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun dyfalu a dadlau ers blynyddoedd. Cafodd tarddiad un math o'r garreg las ei ganfod yng ngogledd Sir Benfro ddechrau'r 1920au, ond erbyn hyn mae daearegwyr Amgueddfa Cymru wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng math arall o'r garreg a rhan wahanol o ogledd Sir Benfro. Tybed a fydd modd i ni ganfod syniadau newydd am sut y cafodd y cerrig eu cludo i Gôr y Cewri?
Côr y Cewri
Côr y Cewri, ar Wastadeddau Caersallog, yw un o henebion mwyaf eiconig y byd. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae'r un mor gyfarwydd ym mhedwar ban ag y mae safleoedd enwog fel Machu Picchu yn Peru a Rhyfelwyr Terracotta Xian yn Tsieina.
Mae Côr y Cewri'n safle cymhleth. Mae fwyaf adnabyddus am ei feini hirion, sy'n cynnwys y Cylch Allanol, y Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Garreg Sawdl ac, o fewn y strwythur, yr 'Allorfaen'. O amgylch y cylch cerrig mae twmpathau a ffosydd, a chyfres o 'dyllau' y tybir iddynt gynnwys meini hirion corau eraill. Mae'r tyllau hyn, sy'n cael eu galw'n Dyllau Aubrey, yn bwysig am eu bod yn cynnwys malurion (neu 'naddion' mae rhai archaeolegwyr yn eu galw) nad yw ei litholeg i'w weld ymhlith y meini hirion cyfredol. Fodd bynnag, rhan yn unig yw Côr y Cewri fel y sefyll heddiw, o ystod ehangach o nodweddion cyfoes sy'n cynnwys y Rhodfa, y Cwrsws, a'r diweddaraf i'w bennu, Côr Gorllewin Amesbury (y'i gelwir yn 'Bluestonehenge' — Côr y Cerrig Gleision). At ei gilydd, dyma Dirwedd Côr y Cewri.
Yr enw ar gerrig mawr y Cylch Allanol yw 'Sarsenau'. Dyma gerrig o dywodfaen caled a gwydn y credir iddynt gael eu casglu o amgylchedd lleol Gwastadeddau Caersallog. Mae tarddiad cerrig llai'r Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Allorfaen, sef y Cerrig Gleision, yn fath 'egsotig' yn ardal Gwastadeddau Caersallog. Am flynyddoedd lawer, bu archwilwyr Fictoraidd blaengar yn pendroni yn eu cylch. Dyma litholeg y Cerrig Gleision, fel y'i gelwir.
Y Cerrig Gleision
Fodd bynnag, yn ei bapur a gyhoeddwyd yn The Antiquaries Journal ym 1923, roedd H. H. Thomas o'r Arolwg Daearegol yn honni iddo ganfod tarddiad dolerit smotiog y Cerrig Gleision ym mrigiadau creigiog, neu 'tyrrau', uchelfannau'r Preseli, i'r gorllewin o Grymych. Yn benodol, credai mai'r tyrrau yng Ngharn Menyn a Cherrig Marchogion oedd y tarddleoedd tebygol. Aeth ymlaen i ystyried sut y cludwyd y cerrig gan bobl i Wastadeddau Caersallog gan fwrw amcan ar ddull cludo ar dir yn hytrach na siwrnai ar fôr a thir.
Nid dolerit smotiog yw'r holl Gerrig Gleision sy'n sefyll yng Nghôr y Cewri heddiw fodd bynnag. Tyffiau llif lludw yw pedair ohonynt, o gyfansoddiad dacitig neu ryolitig. Mae malurion a ganfuwyd yn Nhyllau Aubrey ac mewn cloddiadau archaeolegol eraill yng Nghôr y Cewri a'i Dirwedd yn cynnwys dolerit smotiog a rhagor o ddeunydd dacitig a rhyolitig gwahanol iawn.
Canfyddiadau diweddar
Yn 2009, cychwynnodd Amgueddfa Cymru archwiliadau petrolegol newydd. O astudio malurion o Gae'r Cwrsws, ger y Cwrsws, gwelwyd presenoldeb samplau gafodd eu pennu'n dyffiau llif lludw, gyda phwmis tiwb, darnau crisial a chlastau lithig ar batrwm matrics graen mân wedi'i ailgrisialu. Maent yn gymharol debyg i'r pedair maen hir dacitig a rhyolitig, ond mae gwahaniaethau allweddol. Hefyd yn bresennol oedd samplau y'u gelwyd gynt yn anffurfiol yn 'rhyolit â ffabrig'. Diffinnir y litholeg hon gan ffabrig datblygedig iawn, sy'n bresennol ar raddfa milimetrau. O ddilyn y gwead nodedig hwn, mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi pennu Pont Saeson, sydd yn y tiroedd isel tua'r gogledd i Fynydd Preseli, fel tarddiad y garreg.
Anweddu'r Cerrig Gleision
I brofi'r tarddiad ymhellach, casglwyd tystiolaeth feintiol drwy ddadansoddi cyfansoddiad mân grisialau sircon, maint micron, o Gôr y Cewri, a samplau rhyolit o Bont Season. Defnyddiwyd techneg o'r enw 'sbectromeg màs anwythiad abladiad laser cypledig' ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Canolbwyntir pelydr laser pwerus iawn sydd â diamedr o 10 micron yn unig ar y crisialau sircon (sy'n ddim mwy na 100 micron) a'u 'habladu' — sef eu hanweddu fwy neu lai — gan adael y crisialau sircon yn frith o dyllau bach. Yna, caiff yr anwedd a gynhyrchir yn y broses ei ddadansoddi yn y sbectromegydd màs, sy'n dangos cemeg y crisialau sircon. Dyma'r tro cyntaf i gemeg sircon gael ei defnyddio i ganfod tarddiad deunydd archaeolegol.
Yn ogystal â sirconiwm (a haffniwm, elfen sy'n perthyn yn agos iddo) roedd y crisialau'n cynnwys crynodiadau digonol i'w hadnabod o ystod o elfennau gan gynnwys sgandiwm, tantalwm, wraniwm, thoriwm a'r elfennau daear prin. Roedd dadansoddiad y ddau set o samplau bron yr union yr un peth, gan ddarparu 'ôl bys' geogemegol.
Mae'r canlyniad o bwys sylweddol ac fe'i gyhoeddwyd yn 2011 mewn cyfnodolyn o bwys rhyngwadol, Journal of Archaeological Science.
Ym mis Mehefin 2011, cynhaliwyd gwaith samplo manylach gan bennu'r brigiad a elwir yn Graig Rhos-y-felin ger Pont Saeson fel tarddiad y rhan fwyaf o'r malurion rhyolit a ganfuwyd yn ystod gwaith cloddio yng Nghôr y Cewri a gerllaw.
Cyhoeddwyd canlyniadau'r cloddiadau diweddaraf hyn yn y cyfnodolyn Archaeology in Wales ym mis Rhagfyr 2011.