Cwrs:Lliwio naturiol gyda phlanhigion yr ardd

Amgueddfa Wlân Cymru

 

Mae llawer o blanhigion yr ardd sydd wedi’u defnyddio ar gyfer lliwio, ac eraill sy’n cael eu tyfu yn arbennig oherwydd eu lliw. Byddwch yn dysgu pa blanhigion i’w dewis, a sut i’w tyfu, a hynny yn yr Ardd Liwurau yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre – lleoliad i’ch ysbrydoli. Byddwch wedyn yn lliwio amrywiaeth o samplau o liw mêl i felyn, brown, coch ac arbrofi trwy liwio'n naturiol gyda dail glaslys ffres am dyrgwys golau (gyda nodiadau ar ryseitiau i fynd adref gyda chi).   

Mae prosesau a drafodir yn y gweithdy yn cynnwys creu a defnyddio lliwurau planhigion ac addasu lliwiau.

Mae’r diwrnod llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr pur. Darperir holl offer, deunydd a dillad diogelwch - gwisgwch ddillad addas ac esgidiau caeedig nid sandalau. Gallwch ddod â llyfr nodiadau a chamera/ffôn os dymunwch. 
 

Caiff menig (heb latecs), masgiau,ffedogau a gogls eu darparu. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio gwlân, felly cadwch hyn mewn cof os oes gennych chi alergedd i wlân/lanolin. 


Gwybodaeth Ychwanegol  

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.  

Iaith

Cynhelir y cwrs yn Saesneg yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Llandysul. SA44 5UP

Cyfyngiad Oedran

16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)

Hygyrchedd

Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.  

Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren. 

Canllawiau Iechyd a Diogelwch i fyfyrwyr y cwrs

Mae'n bosib bydd llwch o blanhigion wedi'u sychu.  Bydd masgiau llwch yn cael eu darparu. Rhowch wybod i’r tiwtor ar y diwrnod os oes gennych chi sensitifrwydd anadlu a bod angen i chi sefyll y tu allan i’r ardal waith. 

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.


Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Gwybodaeth

10 Hydref 2026, 10:30yb - 4yp
Pris £85 | £70 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*
Archebu lle Rhaid archebu lle
yarn 1
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
10 Hydref 2026 10:30 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Lleoliad

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau