Cwrs: Lliwio naturiol gyda phlanhigion yr ardd

Mae llawer o blanhigion yr ardd sydd wedi’u defnyddio ar gyfer lliwio, ac eraill sy’n cael eu tyfu yn arbennig oherwydd eu lliw.
Byddwch yn dysgu pa blanhigion i’w dewis, a sut i’w tyfu, a hynny yn yr Ardd Liwurau yn Amgueddfa Wlân Cymru – lleoliad i’ch ysbrydoli. Byddwch wedyn yn lliwio amrywiaeth o samplau o liw mêl i felyn, brown, coch a phinc cwrel (gyda nodiadau ar ryseitiau i fynd adref gyda chi). Mae prosesau a drafodir yn y gweithdy yn cynnwys creu a defnyddio lliwurau planhigion ac addasu lliwiau.
Mae’r diwrnod llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr pur. Darperir holl offer, deunydd a dillad diogelwch – ond bydd diferion ym mhobman, felly gwisgwch ddillad addas. Gallwch ddod â llyfr nodiadau a chamera/ffôn os dymunwch.
Caiff menig (heb latecs), ffedogau a gogls eu darparu.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir lluniaeth ysgafn. Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â’n bwytai a chaffis ar y safle.
Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
Iaith
Cynhelir y cwrs yn Saesneg.
Cyfyngiad Oedran
16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
Hygyrchedd
Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
Canllawiau Iechyd a Diogelwch i fyfyrwyr y cwrs
Mae'n bosib bydd llwch o blanhigion wedi'u sychu. Rhowch wybod i’r tiwtor ar y diwrnod os oes gennych chi sensitifrwydd anadlu a bod angen i chi sefyll y tu allan i’r ardal waith. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio gwlân, felly cadwch hyn mewn cof os oes gennych chi alergedd i wlân/lanolin.