Digwyddiad:Paned a Phapur

Amgueddfa Wlân Cymru

Dewch draw i Amgueddfa Wlân Cymru ar ddydd Mercher (bob pythefnos) am baned a phapur am 12pm.

Cyfle i sgwrsio dros ddished mewn awyrglych hamddenol. 

Yn addas i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. 

Mewn partneriaeth gyda Menter Gorllewin Sir Gâr.

Gwybodaeth

Dydd Mercher- pob pythefnos, 12yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Paned a Phapur

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf.

O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10yb-4yp.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 3yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau