Digwyddiad:Helfa Basg yr Amgueddfa Wlân Cymru
Dewch i chwilio am y cwningod bach sy’n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa! Cwblhewch bob her i hawlio gwobr wych!
Beth ydw i'n ei gael? Taflen helfa A4 llawn lliw. Gwobr (ddim yn fwytadwy)
Prynwch eich Helfa ar-lein ymlaen llaw neu ar y safle tan 3.30yp ar y diwrnod. Os ydych chi wedi prynu’ch taflen ar-lein ymlaen llaw, bydd angen i chi sganio’r tocyn digidol gydag aelod o staff i gasglu eich taflen.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r taflenni'n ddwyieithog.
Oedran – Addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau.
Cost – Mae'r gost yn cynnwys un daflen ac un wobr. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.
Mae Llwybrau Pasg ar gael yn safleoedd eraill Amgueddfa Cymru, ond gall y gwobrau, costau a’r llwybrau fod yn wahanol ym mhob safle.
Lle bo'n bosibl, rydyn ni wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto.
Mae gostyngiad o 10% ar docynnau’r Helfa Basg i Aelodau Amgueddfa Cymru.
Mae aelodau’r Amgueddfa yn cael gostyngiad o 10% am docynnau Helfa Basg.
*Mae Amgueddfa Wlân Cymru ar gau pob dydd Sul a dydd Llun. Mae'r Helfa Basg ar gael ar y dyddiadau penodedig nodwyd ar y tudalen archebu tocynnau ac ar y dudalen yma.*
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Ymweld
Oriau Agor
10am - 5pm
Ar agor pum diwrnod yr wythnos – bob dydd Mawrth, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 3yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd