Cwrs:Printio Botaneg
Byddan nhw’n cael eu gosod ar bapur neu ddefnydd cyn cael eu stemio i ryddhau’r lliwiau. Byddwn ni’n crwydro tir yr Amgueddfa ac yn casglu dail a blodau o’r coed a’r Ardd Liwurau Naturiol i chi gael creu eich dyluniadau eich hunain. Mae’r printiau’n fan cychwyn da ar gyfer cardiau, brodwaith neu bocedi arbennig a bagiau hyd yn oed.
Mae’r diwrnod yn addas i ddechreuwyr pur. Bydd yr holl ddeunyddiau, offer a dillad gwarchodol yn cael eu darparu, ond cofiwch wisgo dillad addas. Gallwch chi hefyd ddod â llyfr nodiadau a chamera/ffôn hefyd.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
- Cynhelir y cwrs yn Saesneg.
- Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
- Lleoliad: Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyrddin, Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
- Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.
Gwybodaeth
Printio Botaneg
Printio Botaneg
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
5 July 2025 | 10:30 | Gweld Tocynnau |