Digwyddiad:Wyn Bach

Amgueddfa Wlân Cymru

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Wlân yn ein grŵp tymhorol i blant o dan 5 oed.

Dewch i ddarganfod a chwarae gyda chrefftau, caneuon Cymraeg ac amser stori, dyma ffordd hwyliog i ddysgu a chwarae gyda’ch plentyn. 

AM DDIM i’w fwynhau. 

3 Rhagfyr 2024– Dathlu Nadolig. Ymunwch â Tudur Phillips am ddawnsio, gemau a storiau! Bydd cyfle i wneud crefft Nadoligaidd hefyd! Mwy o wybodaeth yn dod yn fuan!

2025:

Bydd rhaid archebu tocyn ar gyfer dyddiadau 2025. Cadwch olwg ar y wefan, bydd tocynnau yn cael eu rhyddhau yn fuan.

11 Mawrth – Dathlu Gwanwyn

15 Gorffennaf - Dathlu Haf

14 Hydref- Dathlu Hydref

2 Rhagfyr – Dathlu Nadolig

Mewn Partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr a Cymraeg i Blant  

Mae’r digwyddiad yma’n rhad ac am ddim, ond bob tro y byddwch chi’n cyfrannu rhodd boed fach neu fawr, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.

Gallwch gyfrannu drwy ymweld  Cefnogwch ni | Amgueddfa Cymru  
 

Gwybodaeth

3 Rhagfyr 2024, 11 Mawrth, 15 Gorffennaf, 14 Hydref a 2 Rhagfyr 2025, 10.15yb-12.15yp
Pris Am ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf.

O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10yb-4yp.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 3yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau