Arddangosfa:Gwlân Cymru,Caethwasiaeth a Hunaniaeth
Mae artist Lucille Junkere yn archwilio rôl y brethyn Cymreig ‘Welsh Plains’ wrth ddileu a difrïo hunaniaeth Affricanaidd pobl gafodd eu caethiwo. Roedd tecstiliau yn rhan annatod o’u hunaniaeth cyn gwladychiaeth. Mae hi’n defnyddio mygydau ac arteffactau eraill i gynrychioli treftadaeth Akan, Ashanti, Yorùbá, Igbo, Ibibio, Éwé a Bantu y bobl gafodd eu caethiwo er mwyn gweithio ar blanhigfa mwyaf proffidiol Prydain, Jamaica. Mae gwlanen Gymreig, gweddillion gwlân o garthenni a blancedi, cotwm, a lliwurau naturiol o’r Caribî a Gorllewin Affrica gan gynnwys indigo, logwd, ffystig, pren brasil a chneuen Kola yn cynrychioli’r defnyddiau traddodiadol diwylliannol a gafodd eu cadw rhag y bobl yn ystod eu caethiwed.
Mae’r arddangosfa hyn yn rhan o Safbwynt(iau), project ar y cyd sy’n cydnabod hanesion, safbwyntiau, profiadau a straeon cymunedau amrywiol eu diwylliant ac ethnigrwydd.
Artist gweledol sy’n gweithio ar sail ymchwil yw Lucille Junkere. Mae ei gwaith yn herio rhan Prydain yn y fasnach drawsiwerydd mewn pobl gaeth, ac effeithiau parhaus hyn gan gynnwys hiliaeth a dinistrio systemau gwybodaeth brodorol Affrica.
Mae'r Arddangosfa wedi'i chreu mewn partneriaeth â Cyngor Celfyddydau Cymru. Noddir gan Lywodraeth Cymru.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10am-4pm.
Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau 23-26 Rhagfyr a 1 Ionawr.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 3yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd