Digwyddiad:Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024 yn Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen
Fel rhan o Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr 2024, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn cynnal diwrnod AM DDIM i ofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia.

Mae hyn yn rhan o Amgueddfa Cymru yn Ysbrydoli Atgofion- Gweithio dros Ddementia sy’n brosiect partneriaeth tair blynedd (2022 – 2025) gyda Chymdeithas Alzheimer’s Cymru. Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ei nod yw defnyddio casgliadau ac adnoddau Amgueddfa Cymru i gefnogi lles pobl y mae dementia’n effeithio arnynt.

Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Rhaid archebu tocyn isod.

 Bydd y diwrnod yn cynnwys:

Taith dywys o amgylch Amgueddfa Wlân Cymru gan gynnwys arddangosiadau o'r peirianwaith hanesyddol gan ein crefftwyr

Gweithdy ffeltio gwlyb

Bydd y delynores Delyth Jenkins yn perfformio

Darperir cinio ysgafn. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion dietegol, gan e-bostio kate.evans@museumwales.ac.uk

Gallwn gynorthwyo gyda chostau cludiant.

I gael gwybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Wlân Cymru, gweler ein Canllawiau Mynediad Amgueddfa Wlân Cymru a Stori Weledol: Taith i Amgueddfa Wlân Cymru.

Seats


 

 Tocynnau    
 

Gwybodaeth

21 Tachwedd 2024, 10.30yb-2yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Rhaid Archebu Tocyn
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau