Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mewn partneriaeth â Cyngor Llyfrau Cymru
10.15yb-11.15yb (DIM LLE AR ÔL)
neu
1.30yp-2.30yp
£7 y plentyn. Oedran: Plant 5-12 oed
Rhaid Archebu tocyn o flaen llaw ar-lein!
Tocynnau
Ymunwch â ni am antur wlanog wych wedi’i hysbrydoli gan Blŵi. Yn llawn hwyl ymarferol, bydd plant yn lliwio gwlân Blŵi glas i greu cerdyn gwlanog Blŵi neu'n defnyddio gwlân fel brwsh paent i ddatgelu newidiadau lliw hudolus ar bapur arbennig – gwyliwch wrth i Blŵi drawsnewid o flaen eich llygaid! Byddant hefyd yn profi sut y gall gwlân atal iâ rhag toddi, hyd yn oed o dan wres, gan ddarganfod pwerau insiwleiddio anhygoel gwlân. Pwy sy’n cofio’r bennod lle mae Mam Blŵi yn ceisio cysgu? Bydd cyfle I geisio tawelu cloc larwm swnllyd gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau a dysgu sut mae gwlân yn amsugnwr sain naturiol. Peidiwch â cholli’r profiad unigryw yma fydd yn cyfuno gwyddoniaeth, cynaliadwyedd a hwyl Blŵi!*Bydd Blŵi hefyd yn gwneud ymddangosiad VIP yn y gweithdy*
11.30yb (DIM LLE AR ÔL)
12.30yp (DIM LLE AR ÔL)
Rhaid Archebu tocyn o flaen llaw ar-lein am ddim! Addas ar gyfer bob oedran.
Dewch draw i fwynhau amser stori Blŵi ddwyieithog gyda Menter Gorllewin Sir Gâr – a bydd Blŵi yn galw draw i’n gweld! Bydd cyfle i greu crefftau hefyd a gallwch ymweld â'r Amgueddfa i ddarganfod popeth am wlân – o ddafad i ddefnydd.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd