Cwrs:Tataki zome – curo blodau

Amgueddfa Wlân Cymru

Tataki zome yw’'r grefft o guro blodau a dail ar bapur gyda morthwyl i gofnodi eu lliwiau a’u siapiau.  Byddwn yn dewis planhigion o Ardd Liwurau’r Amgueddfa i greu cardiau unigryw. Gallwch chi hefyd greu patrymau ar ffabrig.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darperir lluniaeth ysgafn. Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â’n bwytai a chaffis ar y safle.
  • Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
  • Cynhelir y cwrs yn Saesneg.
  • Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
  • Lleoliad Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
  • Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.


Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Gwybodaeth

19 Gorffennaf 2025, 10:30am - 12:30pm
Pris £50 | £40 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*

Tataki zome

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
19 July 2025 10:30 Gweld Tocynnau

Ymweld

Oriau Agor

10am - 5pm

Ar agor pum diwrnod yr wythnos – bob dydd Mawrth, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn. 

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. 

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 3yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau