Cwrs:Glaslys – gweithdy dail ffres

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Byddwn yn defnyddio dail glaslys wedi’u casglu o Ardd Liwurau Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyrddin, SA44 5UP i greu lliw gwyrddlas ar gyfer sidan a gwlân. 

Dysgwch sut i greu amrywiaeth o arlliwiau – o lwydlas ysgafn i wyrddlas cyfoethog – o liwur naturiol dail glaslys. Pan fydd celloedd y dail yn cael eu torri i lawr, mae'r indican hwn yn cyfuno ag ocsigen i greu lliw glas. Byddwch chi'n defnyddio gwahanol ddulliau i liwio gwlân a sidan, ac yn creu patrymau ar ffabrig drwy ddefnyddio techneg Tataki zome. Yma, mae dail yn cael eu curo ar ffabrig, a bydd siapiau yn ymddangos mewn gwahanol arlliwiau glas.

Mae’r gweithdy llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr pur. Darperir holl offer, deunydd a dillad diogelwch - gwisgwch ddillad addas ac esgidiau caeedig nid sandalau. Gallwch ddod â llyfr nodiadau a chamera/ffôn os dymunwch. 

Caiff menig (heb latecs), ffedogau a gogls eu darparu. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio gwlân, felly cadwch hyn mewn cof os oes gennych chi alergedd i wlân/lanolin. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw ar-lein.
  • Cynhelir y cwrs yn Saesneg.
  • Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
  • Lleoliad, Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyrddin, SA44 5UP. Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
  • Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.


Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Gwybodaeth

13 Medi 2025, 10:30am -1:30pm
Pris £55 / Gostyngiad £45
Addasrwydd 16+*
Archebu lle Rhaid Archebu lle
Glaslys
Glaslys
Glasys
Glaslys

Woad

Woad
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau