Cwrs:Glaslys – gweithdy dail ffres
Byddwn yn defnyddio dail glaslys wedi’u casglu o Ardd Liwurau Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyrddin, SA44 5UP i greu lliw gwyrddlas ar gyfer sidan a gwlân. Bydd cyfle hefyd i arbrofi gyda thechneg Tataki zome a chreu dyluniad drwy guro’r dail ar ffabrig i ryddhau’r lliw indigo.
Mae’r diwrnod llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr pur. Darperir holl offer, deunydd a dillad diogelwch - gwisgwch ddillad addas ac esgidiau caeedig nid sandalau. Gallwch ddod â llyfr nodiadau a chamera/ffôn os dymunwch.
Caiff menig (heb latecs), ffedogau a gogls eu darparu. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio gwlân, felly cadwch hyn mewn cof os oes gennych chi alergedd i wlân/lanolin.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw ar-lein.
- Cynhelir y cwrs yn Saesneg.
- Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
- Lleoliad, Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyrddin, SA44 5UP. Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
- Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.
Gwybodaeth
Woad
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
13 September 2025 | 10:30 | Gweld Tocynnau |