Digwyddiad:Cyflwyniad i Nyddu: O'r Cnu i'r Brethyn

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â Non Mitchell, Crefftwraig yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyrddin, SA44 5UP am Gyflwyniad i Nyddu Gwlân. 

Bydd y cwrs undydd yn cynnwys didoli, cribo, cyn rhoi cynnig ar wahanol ddulliau o nyddu, gan ddefnyddio’r gwerthyd a chogail, troellau nyddu a gwehyddu ar wŷdd peg i greu pad clustog bach i fynd adref gyda chi.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
  • Cynhelir y cwrs yn ddwyieithog.
  • Cyfyngiad Oedran:16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
  • Lleoliad: Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyddin, SA44 5UP. Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren.
  • Hygyrchedd: Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.


Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Gwybodaeth

14 Chwefror 2026, 10.30yb-4yp
Pris £85/£70
Addasrwydd 16+
Archebu lle Rhaid Archebu Lle
Grŵp cymryd rhan mewn cwrs O'r Cnu i'r Brethyn
Pedwar pobl yn gwehyddu ar wŷdd peg
Logo Penblwydd 50
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau