Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Dewch yn wyddonydd ifanc a darganfod priodweddau rhyfeddol gwlân!
Drwy arbrofion ymarferol, ymchwiliwch i’r hyn sy’n digwydd wrth i wlân gael ei drawsnewid o gnu yn ffabrig. Profwch pa mor sbringlyd yw gwlân, archwiliwch sut mae troelli a ffeltio yn gwneud ffibrau’n gryfach, a darganfyddwch gyfrinachau lanolin sy’n gwrthyrru dŵr.
Ar ôl egwyl gyda bisged a sgwash, ewch i ardd liwurau yr Amgueddfa i ddarganfod byd rhyfeddol liwurau naturiol a dysgu sut y gellir defnyddio planhigion i liwio gwlân a deunyddiau eraill.
Mwynhewch fore llawn hwyl o wyddoniaeth, darganfod a chreadigrwydd ar gyfer meddyliau chwilfrydig.
Bydd y gweithgareddau yn cael eu harwain gan The Big Science Project a’r lliwiwr naturiol proffesiynol, Susan Martin.
Gwybodaeth Archebu
Cofrestrwch wrth y Ddesg Flaen lle bydd eich tocyn(au) yn cael eu sganio.
Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Oherwydd cyfyngiadau lle, caniateir un oedolyn fesul archeb.Cynhelir gweithgareddau The Big Science Project yn ddwyieithog, a bydd y gweithgaredd gardd yn cael ei gynnal yn Saesneg.
Mae'r ystafell addysg yn gwbl hygyrch. Sylwer fod yr Ardd Liwurau Naturiol yn ardal laswelltog ac nad oes llwybrau ffurfiol ynddi. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Nid oes modd ad-dalu tocynnau, ac ni fydd ad-daliadau na chyfnewidiadau yn cael eu cynnig i’r rhai sy’n cyrraedd yn hwyr.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd