Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Yn y sesiwn wyddoniaeth ymarferol hon, bydd plant yn dod yn dditectifs planhigion wrth iddynt archwilio Llwybr y Ddôl newydd sbon yr Amgueddfa. Gan ddefnyddio dail a gasglwyd gan The Big Science Project, byddwn yn cynnal arbrawf yn y “labordy” i ymchwilio i’r cydrannau cudd sy’n ffurfio planhigyn.
Gan ddefnyddio offer gwyddonol, bydd cyfranogwyr yn malu eu dail i ryddhau’r hylifau mewnol, ac yna’n defnyddio cromatograffeg i wahanu’r pigmentau gwahanol sydd wedi’u cuddio ynddynt. Mae’n ffordd wych o weld y cemeg anweledig sy’n helpu planhigion i dyfu a goroesi yn ein hecosystem leol. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Oherwydd prinder lle, dim ond un oedolyn all ymuno ar gyfer pob archeb.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd