Digwyddiad:Y Cwtsh Creadigol: Crefftio a Sgwrsio

Amgueddfa Wlân Cymru

NEWYDD O EBRILL 2026!

Dewch i gwtsh creadigol yr Amgueddfa - lle i ymlacio, i grefftio ac i deimlo'n gartrefol.  Dewch a'ch gwaith gwnio, pwytho, neu unrhyw prosiect cludadwy eich hun, gan bwytho sgyrsiau yn Gymraeg, p'un a'i ydych yn rhugl neu'n dal i ddod o hyd i'ch edefyn. 

Croeso gwlanog i bawb!

Mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr

Gwybodaeth

Ar yr ail ddydd Gwener o bob mis- dechrau 10 Ebrill 2026, 10.30yb-12.30yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw heibio
Cwtsh 2
Cwtsh 2
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Lleoliad

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau