Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o Amgueddfa Wlân Cymru gyda digwyddiad arbennig Gwau Gwryd.
Camwch mewn i draddodiad bywiog Gwau Gwryd - sef cyfarfod gwau cymdeithasol sydd wedi'i wreiddio mewn traddodiad yng Ngorllewin Cymru. Roedd pobl yn dod at ei gilydd i wau, sgwrsio, rhannu straeon a mwynhau ychydig o gystadlu cyfeillgar.
Heddiw, mae'n gyfle i arafu, cysylltu, a bod yn rhan o'r un ysbryd- lle mae gwau'n dod â chymuned ynghyd, sgwrsio a chystadlu cyfeillgar.
Beth am gymryd rhan yn y traddodiad hwn? Os hoffech cymryd rhan, archebwch eich tocyn am ddim. Mae croeso mawr i wylwyr- dewch draw i fwynhau - dim angen archebu tocyn.
1yp–2yp: Mwynhewch adrodd straeon ac adloniant gan y storïwr, actor, digrifwr ac awdur Ceri John Phillips wrth i chi gastio 20 pwyth.
2yp–2.50yp: Mae’r gystadleuaeth yn dechrau! Yn y sialens 50 munud hon (1 munud am bob blwyddyn o’r Amgueddfa), bydd pob cyfranogwr yn cael yr un hyd o wlân Cymreig a byddwn yn gweld pwy all orffen yn gyntaf.
Bydd y cyfranogwr cyntaf i orffen yn ennill gwobr. Bydd yr amseroedd gorffen cyntaf i dri yn cael eu cofnodi, a bydd pob cyfranogwr yn rhoi’r gorau i wau pan fydd y terfyn amser o 50 munud wedi’i gyrraedd.
Yn ystod y gystadleuaeth, bydd y delynores Delyth Jenkins yn darparu cyfeiliant cerddorol byw.
4yp: Bydd arddangosiadau dewisol o’r peiriannau hanesyddol yn cael eu cynnal.
Gwybodaeth Archebu Tocynnau i Gystadleuwyr:• Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac mae’n rhaid archebu ymlaen llaw. • Mae tocynnau am ddim ar gael i’w harchebu ar-lein tan 13 Mai. • Ar ôl y dyddiad hwn, ffoniwch 02920 573070 i wirio argaeledd.• Mae’r gweithgaredd yn addas i oedolion 18+.• Mae croeso i wylwyr ddod draw i fwynhau- nid oes angen tocyn.
Gwybodaeth bellach:• Maint nodwyddau gwau: 5 mm (dewch â’ch rhai eich hun os yn bosibl; bydd nifer gyfyngedig ar gael)• Darperir gwlân Cymreig• Rhaid i bob cyfranogwr defnyddio pwyth gardas (pwyth gwau ar bob rhes)• Ar ôl y gystadleuaeth, mae croeso i chi ymweld â’r caffi, lle bydd lluniaeth ar gael i’w phrynu
Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd