Sgwrs:CREU Sgyrsiau: Cwrdd â'r Curadur

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Ydych chi wedi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni? 

Ymunwch â'n curadur newydd, Deborah Mercer, am sgwrs sy'n archwilio'r casgliad, straeon a gwaith Amgueddfa Wlân Cymru.    

 Wrth i ni ddathlu 50 mlynedd yr Amgueddfa, mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ei hanes, y bobl tu ôl iddi, a'r gwrthrychau sy'n adrodd ei stori. Byddwch hefyd yn gallu trin gwrthrychau dethol o gasgliad yr Amgueddfa.

Cynhelir y sgwrs yn Saesneg.   

Oedrannau 18+

Telerau ac Amodau

Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i ganslo sgwrs neu newid dyddiad(au).
Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr Amgueddfa yn ceisio trefnu dyddiad(au) eraill. Os na ellir cytuno ar ddyddiad arall, yna bydd yr Amgueddfa yn cynnig ad-daliad llawn.
Ni all Amgueddfa Cymru gynnig unrhyw ad-daliad os byddwch chi’n penderfynu canslo neu’n methu â mynychu sgwrs yr ydych wedi archebu lle arno.
Mewn amgylchiadau eithriadol*, pan fyddwch wedi cysylltu â’r Amgueddfa o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad eich cwrs, byddwn yn ystyried cynnig dyddiad arall neu ad-daliad llawn i chi.
Ni fyddwn yn cynnig unrhyw drefniadau eraill yn yr amgylchiadau canlynol:
• Archeb wedi’i chanslo o fewn 4 wythnos i ddyddiad y Cwrs (oni bai fod rhestr aros ar gyfer y cwrs a bod modd i ni ail-werthu eich tocyn ar fyr-rybudd)
• Ni allwch deithio i’r cwrs oherwydd problemau trafnidiaeth, tywydd gwael neu gwmnïau trafnidiaeth yn canslo gwasanaethau.

Mae rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu cyhoeddus Amgueddfa Cymru yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Postcode Lottery 



Gwybodaeth

5 Mehefin 2026, 10.30yb-11.30yb
Pris £10 y person
Addasrwydd 18+
Archebu lle Rhaid archebu lle
Curadur
Sgwrs Curadur
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau