Cwrs: CREU: Tymhorol - Creu Clustog Pin

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â'r Technegydd Crefft, Jody Smart, i wneud clustog pin gan ddefnyddio gwlân wedi'i liwio'n naturiol gyda phlanhigion o Ardd Liwurau Naturiol yr Amgueddfa. Darganfyddwch fwy am y broses liwio naturiol wrth greu clustog pin wedi'i wnïo â llaw eich hun.


Cynhelir y gweithdy yn Saesneg

Addas: 16+

Bydd tocynnau ar werth tan ddydd Mercher 10 Mehefin, oni bai eu bod yn gwerthu allan. Ar ôl hyn, ffoniwch 02920 573070 i weld a oes tocynnau ar gael.                  


Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i ganslo'r gweithdy neu newid dyddiad(au).
Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr Amgueddfa yn ceisio trefnu dyddiad(au) eraill. Os na ellir cytuno ar ddyddiad arall, yna bydd yr Amgueddfa yn cynnig ad-daliad llawn.
Ni all Amgueddfa Cymru gynnig unrhyw ad-daliad os byddwch chi’n penderfynu canslo neu’n methu â mynychu sgwrs yr ydych wedi archebu lle arno.
Mewn amgylchiadau eithriadol*, pan fyddwch wedi cysylltu â’r Amgueddfa o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad eich cwrs, byddwn yn ystyried cynnig dyddiad arall neu ad-daliad llawn i chi.
Ni fyddwn yn cynnig unrhyw drefniadau eraill yn yr amgylchiadau canlynol:
•    Archeb wedi’i chanslo o fewn 4 wythnos i ddyddiad y Gweithdy (oni bai fod rhestr aros ar gyfer y cwrs a bod modd i ni ail-werthu eich tocyn ar fyr-rybudd)
•    Ni allwch deithio i’r Gweithdy oherwydd problemau trafnidiaeth, tywydd gwael neu gwmnïau trafnidiaeth yn canslo gwasanaethau.


Hygyrchedd: Mae ein mannau yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â gwlan@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.

 

 

 

 

Gwybodaeth

13 Mehefin 2026, 10.30yb-1.30yp
Pris £15yp
Addasrwydd 16+
Archebu lle Rhaid Archebu Lle- Bydd tocynnau ar werth tan ddydd Mercher 10 Mehefin, oni bai eu bod yn gwerthu allan.
Clustog Pin
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau