Digwyddiad:Gweithgareddau Hanner Tymor Mai

Amgueddfa Wlân Cymru

Ymunwch â ni Hanner Tymor Mai hwn am amrywiaeth o weithgareddau galw heibio am ddim i fwynhau ar draws yr Amgueddfa.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys :

* Darganfyddwch ein Llwybr Stori Wlanog ryngweithiol newydd i Deuluoedd

* Archwiliwch ein Llwybr Ddôl

* Crefftau galw heibio yn ein Horiel Gwneud a Chreu newydd sy'n dathlu wythnos Eisteddfod yr Urdd

* Mwynhewch grefftau ymarferol y Cart Celf i blant

* Gwyliwch wahanol arddangosiadau crefft sy'n digwydd drwy gydol yr wythnos

Sylwch fod amseroedd arddangosiadau amrywiol bob dydd. Os hoffech wirio beth sy'n digwydd ar ddiwrnod penodol, ffoniwch yr Amgueddfa cyn eich ymweliad ar 02920 573070.

Croeso gwlanog i bawb!

Gwybodaeth

23 Mai, 26-30 Mai
Pris Am ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw Heibio
Nyddu
Llwybr Ddol
Teulu AWC
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Lleoliad

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau