Ymweld Am Ddim

Mynediad

Mynediad am ddim.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul Ar gau

 Cyfeiriad

Dre-fach Felindre, ger Castellnewydd Emlyn
Llandysul
Sir Gaerfyrddin
SA44 5UP

Map a Sut i Gyrraedd Yma

 Cysylltwch â ni

Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: gwlan@amgueddfacymru.ac.uk

 Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

Canllaw Mynediad

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp. 
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

 Bws

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru: Bwcabus 460 Service - Bwcabus (traveline-cymru.info).

 Grwpiau

Mae'n bosibl cynnal ymweliadau grŵp yn ystod ein horiau agor arferol ac mae mynediad am ddim.

Archebwch le i'ch grŵp ymlaen llaw drwy e-bostio gwlan@amgueddfacymru.ac.uk am y manteision canlynol:

  • Gostyngiad o 10% yn y siop (o wario o leiaf £5 y pen) ar gyfer eich ymwelwyr.
  • Lluniaeth am ddim i yrwyr Bysiau (wrth ddangos prawf ID).

 Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

 Ydw i’n gallu dod a’r ci?

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn croesawu cŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi, ond ni chaiff anifeiliaid eraill fynediad i adeiladau'r amgueddfa. Caiff cŵn (ac anifeiliaid cymorth emosiynol eraill) fynediad i'r gerddi a mannau awyr agored yr Amgueddfa, ond rhaid eu cadw ar dennyn.

Cefnogwch Ni

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.

Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal: Dewch i ddarganfod stori Cymru