12. Gwaith Morwyn Fferm

Merch yn godro yn yr awyr agored ar fferm yn Felin Newydd, Ceredigion, yn y 1900au.

Wel y - os bydda chi mewn lle lle bydda dwy forwyn...

Ie.

... wel y Forwyn Fawr fydda hi'n edrych ar ôl y dynion fath â mae o'n ddeud. Pobi, edrych ar ôl ‘u gwlâu nhw oddi allan, 'te.

Ie.

Golchi dillad gwlâu nhw ac yn godro ac edrych bod y lloia'n câl llaeth. Ac edrych odd y forwyn arall yn gneud hefo hi, ac yn gweld bod bob llo yn câl llaeth a'i yfed o. Fydda 'na ddim iws gadel iddo fo heb ddim neu fydda'r llo‘n mynd i lawr yn bydda? A'r moch. Ond y gwas bach yn amal iawn fydda'n gneud y moch.

A ie.

Yn amal. Yn amlach na fydda'r forwyn.

Ond y Forwyn Fawr oedd yr un ucha i fyny?

Y Forwyn Fawr odd hyna'

Ie.

A wedyn fydda yn edrych ar ôl y llaeth, wyddoch chi. Fydda isio corddi i gâl menyn. Wedyn y Forwyn Fawr fydda'n edrych ar ôl rheiny.

Ie. Wela i.

Wedyn y Forwyn ... y Forwyn Gegin fydda'n gneud yr un peth â dw i ‘di ddeud yn barod 'te. A wedyn fydda honno yn edrych ar ôl ... a wedyn fydda'n helpu efo golchi, peth o'r tŷ pan fydda diwrnod golchi wedi dŵad. Ac yn watshad bydda petha - rhoi petha ar y bwrdd. A gneud y bwrdd am y prydia 'te. Brecwast, cinio, a the a bob peth fel 'na. Ac wrth law - os byddan nhw isio rwbath, odd rhaid chi fod yno.

Ond ...

Fydda rhaid ichi dropio bob dim oddach chi'n neud os bydda'r Fistres yn galw.

Mm.

Fydda rhaid ichi fod yno i ateb. A gneud beth odd hi isio, a dod yn ôl i'ch gwaith wedyn. Rhaid ichi neu - ...

(Mr Davies:) A'r Forwyn Briws yn dechra bump yn y bora. Gwneud brecwast erbyn chwech i griw ohonan ni 'te. A darfod. Gadal y gwaith a mynd i'r gwely.

Gweithio drwy'r dydd yn ddi-stop?

(Mr Davies:) Wedyn fedrwch chi ddim rhoi gwell enw ar yr hogan honno na slave fedrwch? Na fedrwch?

----------

Mrs Mary Davies, Gwalchmai, Sir Fôn. Ganed 1894.

Tâp archif AWC rhif 4109. Recordiwyd 1974.