1. Golchi Dillad y Chwarelwr

Dyna chi'r gwaith caleta' gan wraig y tyddynnwr a'r chwarelwr oedd golchi ffustion. Rwan, oedd y chwarelwr bob amser yn gwisgo trowser melfarèd, cordiròi. Côt lian hefyd, 'dach chi'n gweld, o dan 'i grysbas ynte. Wel, gyntaf âi o i'r chwarel pan odd rheina'n lân, odd llwch llechi hyd iddyn nhw'n toedd? Ac ond unwaith bob mis fyddan nhw'n cal 'u golchi ac rodd hi'n job ofnadwy. A roedd y trowser yn mynd yn wynnach ac yn wynnach fel oddach chi'n 'wisgo fo. Odd o'n dechra yn rhyw frown, 'dach chi'n gwbod, ac wedyn mi fydda'n mynd yn wynnach wrth gal 'i olchi 'te, a diwrnod ofnadwy i wraig y chwarelwr odd diwrnod golchi ffustion. Y sosban odd ganddi i ferwi dillad ag oddan ni'n gorfod gneud y cwbwl yn y gegin 'dach chi'n gweld, y sosban ffurf ŵy, hirgrwn a handlan fel'na wrthi hi, fawr fel'na dros 'i phen hi'n te. Handlan fasa'n hongian os bysach chi isho. A wedyn odd hi'n gorfod berwi y dillad yma, y ffustion yma, mewn dŵr a soda, cofiwch!

Oddan ni'n tynnu dŵr o bistyll bach yn nhalcen y tŷ, 'dach chi'n gweld. Ddim o dap o gwbwl 'te - pistyll dŵr digon da i'w yfed. Odd o'n dŵad trwy lechi i lawr o ffynnon yn nhop y cae a wedyn i lawr trwy gafn llechi, 'dach chi'n gweld, i lawr i'r pistyll. Wel fydda Mam, 'dwn i ddim sut odd hi'n neud o, yn cario'r sosban fawr 'ma, hirgrwn 'ma, efo'r ffustion ynddi ac yn rhoid o dan y pistyll i strelio nhw, bob tywydd. Bob tywydd. Ac yn anodd i sychu, odd o'n anodd i sychu, yn y gaea'n te, yn ofnadwy. Ond fyddan nhw'n cal 'u rhoi allan ar y lein mae'n debyg - gafal mewn diwrnod go lew yntê. Fydda'n diferu beth bynnag, a dod â nhw i'r ty i olchi, i'w sychu.

Dr Kate Roberts, ganed yn Rhosgadfan, Sir Gaernarfon, 1891.

Tâp archif Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru rhif 2526. Recordiwyd 1969.