Llogi yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Mae Big Pit yn cyfuno treftadaeth mwyngloddio glo gyda chyfleusterau ardderchog a chroeso cynnes y Cymoedd. Wedi'i lleoli yn nhref Blaenafon, mae'r amgueddfa lo genedlaethol ar gael i'w llogi ar gyfer eich digwyddiadau.
Ar gyfer diwrnodau cwrdd i ffwrdd o'r swyddfa, cyfarfodydd neu gyflwyniadau, byddem yn argymell Ystafell Kearsley, gofod hyblyg yn y baddondai pen pwll hanesyddol gyda lle i 20 ar ffurf ystafell bwrdd neu 60 ar ffurf seddi theatr. Hefyd, mae Ystafell Coety yn addas ar gyfer cynadleddau bach gyda lle i hyd at 40 ar ffurf ystafell bwrdd neu 90 ar ffurf theatr.
Mae ffreutur wreiddiol y Glowyr ar gael i'w llogi hefyd ar gyfer gweithio dros ginio ar gyfer hyd at 50 o bobl. Gall ein gwasanaeth arlwyo ddarparu cinio bwffe a lluniaeth i weddu i amserlen eich digwyddiad hefyd.
Wrth gynnal eich digwyddiad gyda ni, beth am fwynhau gweithgareddau uwchben ac o dan y ddaear hefyd. Ewch ar daith amlgyfrwng o bwll glo modern yn yr Orielau Glofaol, arddangosfeydd yn y baddondai pen pwll ac adeiladau glofa hanesyddol. Neu ymunwch ag un o Dywyswyr Big Pit ac archebu taith danddaear i chi a'ch gwesteion, i ddysgu mwy am hanes y lleoliad unigryw hwn o dan eich traed. P'un ai’ch bod yn cynnal cyflwyniad, cynadleddau, lansio cynnyrch neu ddigwyddiad rhwydweithio, mae'r amgueddfa'n cynnig cyfleusterau modern a lleoliad cofiadwy.
Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am yr hyn sydd gan Big Pit i'w gynnig, prisiau ac i ddechrau cynllunio eich digwyddiad. Edrychwn ymlaen at estyn croeso cynnes i chi i'r amgueddfa.
Fel elusen gofrestredig, bydd pob digwyddiad a gynhelir gennych gyda ni yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru’n perthyn i bawb a'i bod yma i bawb ei defnyddio, gan gynnwys ein holl waith arddangos, cymunedol ac addysgol.