Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae Castell Sain Ffagan yn adeilad rhestredig Gradd I. Fe’i gelwir yn gastell hyd heddiw gan ei fod wedi’i adeiladu ar adfeilion hen gastell mwnt a beili Normanaidd ac mae’n dal i fod yn lleoliad digwyddiadau nodedig hyd heddiw.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer priodasau, seremonïau ac achlysuron arbennig agos-atoch, a gallwch logi dau brif ran o’r Castell.
Mae Neuadd y Castell yn lleoliad mawreddog ar gyfer seremoni, wedi'i addurno mewn derw tywyll gyda lle tân cerfiedig cywrain ag arfbais y teulu arno, gyda lle i hyd at 50 ar gyfer seremoni.
Mae gan yr Ystafell Fwyta hardd a llachar, a gwblhawyd ym 1896, le i hyd at 60 o westeion wedi’u trefnu mewn sawl ffordd wahanol. P’un ai’ch bod yn gwneud addunedau neu’n dwyn ffrindiau a pherthnasau ynghyd ar gyfer achlysur o fwyta a dathlu, neu’n cynnal cyfarfod i greu argraff hyd yn oed, go brin y cewch chi le mwy hyblyg mewn lleoliad hanesyddol. Mae offer clyweledol modern a WiFi ar gael.
Yn yr haf, mae'r mannau hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’n gerddi ar gyfer digwyddiad gwirioneddol fawreddog ar dir y castell.
Gallwch gyrraedd y castell naill ar lwybr cerdded byr o’r prif adeilad, neu drwy’r gatiau o bentref Sain Ffagan. Mae mynediad i geir a pharcio trwy gwrt a dreif y castell yn bosibl hefyd.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth, gan gynnwys opsiynau arlwyo.
Mae prisiau llogi’r lleoliad unigryw hwn yn dechrau o £800 + TAW ac mae’n dibynnu ar y gofynion a hyd y cyfnod llogi. Cysylltwch â’n tîm ymroddedig i gael dyfynbris.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.
Cysylltwch â ni