Ciniawau Gala
Fel cartref i hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yw un o leoliadau enwocaf Abertawe i gynnal eich digwyddiad gala.
Mae ein Horiel Warws ar lawr cyntaf yr adeilad Fictoraidd hanesyddol ac mae ganddi le i hyd at 200 o westeion ar gyfer cinio o gwmpas bwrdd, yng nghanol casgliad morwrol anhygoel yr amgueddfa. Mae nodweddion diwydiannol gwreiddiol yn cynnwys nenfydau pren, trawstiau haearn, drysau warws a ffenestri portwll. Mae'r oriel unigryw hon yn cynnig golygfa dros Ardal Forwrol Abertawe a'i llongau wrth i’ch gwesteion fwyta.
Trafodwch â'n tîm i weld sut allwn ni deilwra'ch cinio'n arbennig i chi, boed trwy oleuadau yr un lliw â'ch brand, cymorth technegol ar gyfer anerchiadau a chyflwyniadau neu addurno'r lleoliad – eich digwyddiad chi, eich amgueddfa chi.
Ar gyfer adloniant, mae gennym system PA bwrpasol ar gyfer eich dewis o gerddoriaeth neu holwch ein tîm am argymhellion, o gorau i artistiaid clasurol.
Beth am ddiddanu’ch gwesteion ymhellach gyda derbyniad diodydd yn y cyntedd uwch a'r balconi wrth iddynt gyrraedd.
Darperir bwyd a diod gan un o'n harlwywyr trydydd parti arbenigol sydd wedi ennill gwobrau. O bryd tri chwrs i fwffe penigamp, gall ein cyflenwyr ddarparu ar gyfer eich anghenion, gan gynnwys bwydlenni cynaliadwy.
Mae prisiau llogi’n dechrau o £1,800 + TAW. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â'n tîm ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer eich anghenion cinio gala.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Cysylltwch â ni i drafod, llogi neu drefnu ymweliad a'r safle