Cyfarfodydd yn Sain Ffagan
P'un ai’ch bod chi'n chwilio am leoliad cwbl unigryw i greu argraff neu leoliad modern i ffwrdd o brysurdeb canol y ddinas, eich hamgueddfa yw’r lle i chi.
Mae ein gofodau stiwdio, sydd wedi’u lleoli yn ein prif adeilad, yn cynnwys cyfleusterau clyweledol modern sy’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd, sesiynau gweithdy neu ddiwrnodau tîm, gyda lle i rhwng 30-60 o bobl yn dibynnu sut y cânt eu trefnu. Ar gyfer cyfarfodydd ar ffurf cyflwyniad, yn ein Darlithfa ceir taflunydd, sgrin, system PA a darllenfa, gyda lle i hyd at 120. Maen nhw’n fannau cwbl hygyrch.
Neu, mae gan ein Castell rhestredig gradd 1 ystafell fwyta hardd y gellir ei defnyddio fel man cyfarfod hynod a hanesyddol. Gall ddarparu ar gyfer rhwng 10-50 o bobl yn dibynnu sut y caiff ei threfnu, ac mae offer clyweledol modern megis sgriniau symudol ar gael yn ogystal â wifi.
Ar gyfer cyfarfodydd diwrnod llawn, beth am gymryd hoe i grwydro tiroedd yr amgueddfa a thros 40 o adeiladau hanesyddol.
Siaradwch â'n tîm am ofynion eich cyfarfod, boed yn alwadau hybrid neu'n siartiau troi, ac i gael gwybod mwy am opsiynau arlwyo a phrisiau llogi.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cysylltwch â ni i drafod ymhellach, i logi ystafell neu drefnu ymweliad