Cynadleddau yn Sain Ffagan
Wedi'i lleoli prin bedair milltir i'r gorllewin o ganol y brifddinas, oddi ar yr A4232, amgueddfa Sain Ffagan yw'r lleoliad amgen delfrydol ar gyfer eich cynhadledd gorfforaethol.
Mae gan ein darlithfa fodern, ar lawr cyntaf y prif adeilad, le i hyd at 120 o bobl, gyda thaflunydd, sgrin, system PA a darllenfa. Mae’n lleoliad cwbl hygyrch gyda lle i ddefnyddwyr cadair olwyn lifft i'r llawr. Mae toiledau yn union y tu allan i’r theatr ac yn cynnwys tŷ bach hygyrch.
Ar gyfer sesiynau trafod byddem yn argymell un o'n stiwdios modern. Ystafelloedd golau braf gydag offer clyweledol, y gellir eu haddasu ar ffurf theatr, ystafell ddosbarth neu ystafell bwrdd.
Mae pecynnau arlwyo a chyfraddau dyddiol i gynrychiolwyr ar gael a gellir eu gweini yn ein atriwm eang.
A rhwng y sesiynau beth am adael i'ch cynadleddwyr fynd am dro o gwmpas tiroedd yr amgueddfa a thros 40 o adeiladau hanesyddol.
Siaradwch â'n tîm ymroddedig am ofynion technegol ychwanegol, megis sgriniau symudol, meicroffonau, fideo gynadledda neu gymorth staff technegol.
O safbwynt llety, mae gan Gaerdydd ddigonedd o westai ar gyfer eich cynrychiolwyr, ond mae gennym gynnig arbennig gyda Gwesty Clayton sy’n cynnig 15% o ostyngiad i'r cynadleddwyr wrth archebu gan ddefnyddio ein dolen cleientiaid, y gallwn ei rhannu unwaith y byddwch wedi cadarnhau eich digwyddiad gyda ni.
Rydym wedi croesawu cynadleddau Gwasanaeth Gwaed Cymru, Croeso Cymru a TUC Cymru yma yn y gorffennol.
Cysylltwch â'n tîm digwyddiadau pwrpasol i gael dyfynbris ar gyfer eich anghenion cynadledda.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, i drafod gofynion cyfarfod neu i logi ystafell gyfarfod.