Cyntedd Uwch, Orielau a Balconi
Mae’r cyntedd uwch yn ofod oriel mawr 360 gradd gydag arddangosion o amgylch y grisiau a drysau gwydr yn agor allan i Falconi’r Marina. Mae’r balconi yn cynnig golygfeydd ar draws Marina Abertawe a’i llongau. Mae'r ystafell yn cynnig lle preifat hamddenol braf uwchben bwrlwm y Marina.
Ar ben hynny, mae gan y cyntedd uwch wal ddigidol hynod boblogaidd. Cyfle i arddangos eich logos corfforaethol chi a’ch partneriaid. Mae’n boblogaidd hefyd gyda chyplau sy’n priodi i arddangos lluniau mewn derbyniadau diodydd.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer derbyniadau a digwyddiadau ar gyfer hyd at 200 o bobl.
Gallwch logi’r Oriel Newydd hefyd, sy’n arddangos rhai o wrthrychau diwydiannol mwyaf diddorol yr Amgueddfa gan gynnwys injan stêm, awyren o 1907 a wagen lo. Mae’r lleoliad unigryw hwn yn destun siarad rhagorol ar gyfer eich derbyniad min nos.
Mae ein lleoliad yn gwbl hygyrch gyda lifftiau i bob lefel a thoiledau hygyrch ym mhob cwr o’r amgueddfa.
Siaradwch â ni am unrhyw ofynion arbennig, boed yn oleuadau yr un lliw â’ch brand, offer clyweledol, systemau PA neu addurno’r ystafell mewn ffordd arbennig, ac i wybod mwy am opsiynau arlwyo a diodydd.
Mae prisiau llogi’n dechrau o £1,200 + TAW yn dibynnu ar y lle. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â’n tîm ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich digwyddiad.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.