Dathliadau yn Sain Ffagan
Wedi’i thrwytho yn hanes cymdeithasol ein cenedl, mae Sain Ffagan yn gefndir perffaith i ddathliad gwirioneddol hanesyddol i’w gofio. Pen-blwyddi, partïon dyweddïo, dathlu beichiogrwydd, partïon priodas a mwy.
Edrychwch ar becyn ‘Lock-In’ tafarn y Vulcan er mwyn defnyddio un o leoliadau eiconig y brifddinas ar gyfer eich achlysur arbennig neu ystyriwch ystafell fwyta Castell Sain Ffagan i ddod at eich gilydd. Yn ystod misoedd yr haf, mae ein gerddi a'n tiroedd hardd yn ddelfrydol ar gyfer derbyniad alfresco, i fwynhau gwydryn yn yr haul.
Siaradwch â’n tîm llogi lleoliad pwrpasol i ddysgu mwy am opsiynau diodydd ac arlwyo, boed yn lasied o win a bwyd bys a bawd neu de p’nawn.
Cysylltwch â ni i ddechrau cynllunio eich dathliad mawr nesaf yn atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.