Derbynfaoedd
Beth am estyn croeso i’ch gwesteion gyda derbyniad bythgofiadwy yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cartrefi stori diwydiant ac arloesi yma yng Nghymru.
Neuadd Weston yw'r neuadd arddangos fawr a welwch chi wrth gyrraedd yr Amgueddfa drwy'r brif fynedfa. Mae golau naturiol yn llifo drwy Neuadd Weston diolch i’r waliau gwydr sy'n arwain i ardd yr iard. Mae’n dderbynfa drawiadol a hyblyg min nos.
Mae ein cyntedd uwch a’r balconi yn cynnig lle unigryw i westeion rwydweithio gyda golygfeydd o'r ardal forwrol a'i llongau. I’r dim ar gyfer digwyddiad heulog yn yr haf. Ychwanegwch elfennau personol i'ch digwyddiad trwy ddefnyddio'r wal ddigidol i arddangos lluniau neu logos y cwmni.
Mae lle i hyd at 300 o westeion yn Oriel Warws ar gyfer derbyniad ar eu traed, wedi’u hamgylchynu gan gasgliad morwrol anhygoel ein hamgueddfa.
Mae ein gardd GRAFT yn cynnig lle arbennig yn yr awyr agored ar gyfer digwyddiadau min nos yn yr haf hefyd.
Mae'r holl leoedd yn gwbl hygyrch, gyda lifftiau i bob lefel a thoiledau hygyrch ar hyd a lled yr amgueddfa.
Holwch ein tîm i weld sut allwn roi’ch stamp chi ar eich cinio, boed yn oleuadau lliw brand, byrddau tal, cymorth technegol ar gyfer anerchiadau neu addurno’r safle at eich dibenion chi, a dysgu mwy am becynnau diodydd ac arlwyo.
Mae prisiau llogi’n dechrau o £1,100 + TAW yn dibynnu ar y lle. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â'n tîm ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich derbyniad.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, i logi neu drefnu ymweliad