Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae ein Horiel Warws ar lawr cyntaf yr adeilad Fictoraidd hanesyddol ac mae ganddi le i hyd at 200 o westeion ar gyfer cinio eistedd i lawr a hyd at 250 gyda seddi ar ffurf theatr.
Mae’r oriel unigryw a hyblyg hon yn gartref i gasgliad morwrol anhygoel ein hamgueddfa. Gyda nodweddion diwydiannol gwreiddiol yn cynnwys nenfydau pren, trawstiau haearn, drysau warws a ffenestri portwll, mae'r gofod hwn yn cynnig golygfa arbennig i’ch gwesteion dros Ardal Forwrol Abertawe a’i llongau yn ystod eich digwyddiad.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer cynnal ciniawau gala, seremonïau gwobrwyo, derbyniadau mawr a pherfformiadau hyd yn oed. Mae gan yr oriel system PA, taflunydd a sgrin fawr.
Mae Oriel Warws yn cyd-fynd yn wych â llogi ein cyntedd uwch a’r balconi.
Mae ein lleoliad yn gwbl hygyrch gyda lifftiau i bob lefel a thoiledau hygyrch ym mhob cwr o’r amgueddfa.
Siaradwch â ni am unrhyw ofynion arbennig ar gyfer eich digwyddiad, boed yn oleuadau yr un lliw â’ch brand, offer clyweledol, systemau PA neu addurno’r gofod mewn ffordd arbennig, ac i wybod mwy am opsiynau arlwyo.
Mae’r cleientiaid sydd wedi mwynhau llogi Oriel Warws yn y gorffennol yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Dŵr Cymru a Fever Up ar gyfer y cyngherddau golau cannwyll.
Mae prisiau llogi’n dechrau o £1,800 + TAW. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â'n tîm ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich cynhadledd chi.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.
Cysylltwch â ni