Orielau
Yn Sain Ffagan cewch eich gwahodd i archwilio stori Cymru, ei siapio a'i rhannu ag eraill ac mae ein horielau yn lleoliad perffaith i wneud hynny gyda gwesteion eich digwyddiad.
Wedi'i lleoli ar lawr uchaf ein prif adeilad, mae oriel Cymru yn adrodd hanes y genedl o safbwyntiau gwahanol, gydag eitemau anhygoel o'n casgliadau, a'r bobl sy'n gysylltiedig â nhw. Mae’n ddelfrydol ar gyfer derbyniad mis nos wedi'i amgylchynu gan straeon y genedl.
Mae'r oriel Byw a Bod yn cymryd pethau cyffredin ein bywydau bob dydd ac yn dangos eu bod yn eithriadol. Mae'r oriel unigryw hon ar gael i'w llogi'n breifat hefyd ac yn cyd-fynd yn berffaith â’n cyntedd uwch a’r Atriwm ar gyfer digwyddiad cydlynol llawn.
Siaradwch â'n tîm arbenigol i drafod opsiynau ar gyfer offer technegol, cymorth ac opsiynau arlwyo.
Mae prisiau llogi’r lleoliad unigryw hwn yn dechrau o £2,200 + TAW ac yn dibynnu ar hyd y cyfnod llogi. Cysylltwch â'n tîm ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich digwyddiad.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.