Priodasau yn Sain Ffagan

  • Mae priodfab a priodferch yn cerdded law yn llaw o dan bergola wedi'u hamgylchynu gan wyrddni a blodau.

Diolch am ystyried Amgueddfa Cymru ar gyfer eich priodas a llongyfarchiadau ar eich dyweddïad!

Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn arbenigo mewn cadw a chreu atgofion, a byddwn yn helpu i wneud diwrnod eich priodas yn wirioneddol gofiadwy, i chi, eich teulu a'ch ffrindiau. Gyda'i gerddi ffurfiol cain, llwybrau coetir ac adeiladau hanesyddol, yr Amgueddfa yw un o'r lleoliadau priodas mwyaf rhamantus ac unigryw yng Nghymru heb os.

Nid ydym yn cynnig pecyn seremoni yn unig. Os ydych chi'n chwilio am opsiynau gwledd briodas yn unig, rhowch wybod i ni.

Mae costau ar gyfer offer technegol fel meicroffonau, systemau PA a goleuadau i'w pennu yn seiliedig ar y gofynion.

Os ydych chi'n chwilio am adloniant, boed yn DJ, cerddorion byw neu ddawnswyr, mae gennym gysylltiadau ar gyfer amrywiaeth o opsiynau adloniant addas i'ch noson.

Darperir arlwyo drwy ein cwmnïau arlwyo trydydd parti o ddewis. Siaradwch â'n tîm i ddysgu mwy am yr opsiynau hyn.

Os oes gennych chi ddyddiadau penodol mewn golwg, rhowch wybod i mi fel y gallwn wirio ein bod ar gael.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech chi drefnu ymweliad, cysylltwch â ni!

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad i drefnu llogi ar gyfer priodas neu i drefnu ymweliad.

Cysylltwch â ni

  • Mae priodfab a priodferch yn sefyll yn agos at ei gilydd o dan berloga mewn gardd. Mae'r priodfab yn gwisgo siwt a'r briodferch mewn ffrog wen.
  • Priodferch mewn gŵn les gwyn a phriodfab mewn siwt lwyd yn cerdded law yn llaw o dan ddeildy mewn gardd, wedi'u hamgylchynu gan flodau.
  • Mae priodfab a priodferch yn cerdded law yn llaw o dan bergola wedi'u hamgylchynu gan wyrddni a blodau.
  • Mae priodfab a priodferch yn sefyll ar lawnt wedi'i thirlunio yng ngerddi adeilad hanesyddol, wedi'u hamgylchynu gan wrychoedd, blodau a choed.
  • Mae parti priodas yn sefyll o dan borth carreg yng ngerddi adeilad hanesyddol.
  • Mae priodfab a priodferch yn cofleidio ar deras carreg sy'n edrych dros ardd gyda phwll, gwrychoedd a choed.