Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Wedi'i leoli yn nhiroedd hanesyddol Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, mae drysau'r Vulcan ar agor unwaith eto ac ar gael i'w llogi’n breifat.
Camwch yn ôl mewn amser a gadewch i ddehongliad hanesyddol o'r Vulcan ym 1915 gyfareddu’ch gwesteion gyda’ch ‘lock-in’ eich hun.
O bartïon bach ac achlysuron teuluol, i nosweithiau rhwydweithio a digwyddiadau corfforaethol, cewch noson i’w chofio yn un o sefydliadau eiconig Caerdydd. O'r prif far i’r ystafell fwg a’r ardd gwrw, mae lle i hyd at 70 o westeion. Ar gyfer cerddoriaeth ac anerchiadau gallwn gynnig ein hoffer sain ein hunain neu gall ein tîm argymell adloniant byw sy’n addas ar gyfer y gofod.
Gyda’r opsiynau arlwyo’n amrywio o'n siop ‘sgod a sglods’ ein hunain ar y safle i arlwywyr trydydd parti arobryn, holwch ein tîm amdanyn nhw i gyd a dewis yr un addas i chi.
Gyda dyddiadau’n brin yn ystod y flwyddyn, bachwch y cyfle i fwynhau ein casgliad o gwrw crefft lleol yn eich ‘Vulcan Lock-in’ arbennig chi.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.
Cysylltwch â ni