Ystafell Ocean a’r Golofnfa
Mae Ystafell Ocean yn llawn golau naturiol ac wedi’i lleoli yn y Warws hanesyddol, gyda nodweddion diwydiannol Fictoraidd fel y drysau llithro.
Mae ganddi offer fel taflunyddion, sgriniau a system PA bwrpasol. Mae Ystafell Ocean yn hawdd ei chyrraedd ar lawr gwaelod yr amgueddfa, ac mae yn edrych dros y Marina hardd gyda mynedfa drwy’r Golofnfa.
Mae Ystafell Ocean yn ddelfrydol ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd a diwrnodau tîm, ac mae’n ofod amlbwrpas sy'n gweithio’n dda ar sawl ffurf. Mae lle i 80 o bobl ar ffurf cabaret a 150 ar ffurf theatr. Mae rhagor o offer a chymorth technegol ar gael, o lwyfannu, darllenfeydd a meicroffonau i staffio technegol a chynadledda hybrid.
Lleoliad a rhodfa hir â waliau gwydr yw’r Golofnfa sy’n cysylltu Ystafell Ocean, Neuadd Weston a Gardd yr Amgueddfa gyda drysau dwbl gwydr. Mae ganddi fynedfa gyhoeddus sy’n arwain allan i Sgwâr y Marina. Mae’n fwyaf addas fel gofod arddangosfeydd cynadledda, i weini arlwyo ar gyfer Ystafell Ocean neu fel derbynfa diodydd hyd yn oed. Mae ganddi le i 200 o bobl ar eu traed.
Mae prisiau llogi’n dechrau o £1,000 + TAW yn dibynnu ar y gofynion. Mae opsiynau ar gyfer digwyddiadau llai ar gael. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â’n tîm ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich digwyddiad.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.