Ystafelloedd Cyfarfod

Wedi'i lleoli'n gyfleus yng nghanol y ddinas, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnig lleoliad cyfarfod unigryw a chwbl wahanol i unrhyw un arall yn y brifddinas ac mae ein hystafelloedd cyfarfod hyblyg yn addas ar gyfer pob math o gyfarfodydd.

Wedi'u lleoli ar lawr gwaelod yr Amgueddfa, drws nesaf i'r Bwyty, mae ein hystafelloedd cyfarfod yn cynnwys taflunyddion, sgriniau a systemau PA pwrpasol. I’r dim ar gyfer gweithdai a chyflwyniadau AV. Mae gan yr ystafelloedd fynediad Wi-Fi pwrpasol ar gyfer digwyddiadau a gallwn gynnig cyfarfodydd hybrid. Gydag amryw o bosibiliadau o ran niferoedd a threfniant, gweler yr opsiynau isod i ganfod y man cyfarfod addas i chi.

Siaradwch â'n tîm i gael gwybod mwy am gymorth technegol pellach, adnoddau cyfarfodydd fel siartiau troi, papur ac i glywed am opsiynau arlwyo.

Ystafell Gyfarfod Dylan Thomas

  • Mae’n gwbl hygyrch gyda ramp drwy'r prif ddrysau a lifftiau i bob lefel, gan gynnwys y toiledau a ramp o'r bwyty.
  • Lle i 20 ar y mwyaf
  • Addas ar gyfer cyfarfod ystafell bwrdd neu ddull theatr

Ystafell Gyfarfod Augustus a Gwen John

  • Lle i 50 ar y mwyaf
  • Addas ar gyfer cyfarfod ystafell bwrdd, dull ystafell ddosbarth neu theatr.

Ystafell Gyfarfod Lloyd George

  • Lle i 15 ar y mwyaf
  • Addas ar gyfer cyfarfod ystafell bwrdd
  • Ystafell Oriel

  • Gellir agor y mannau uchod gan ddefnyddio waliau sleidio i greu ein hystafell gyfarfod fwyaf.
  • Yn gwbl hygyrch gyda ramp drwy'r prif ddrysau, gyda lifftiau i bob lefel, gan gynnwys y tai bach a ramp o'r bwyty.
  • Lle i 80 ar y mwyaf
  • Lle i 50 mewn cyfarfod ystafell bwrdd, 80 ar ffurf theatr a hyd at 60 ar ffurf cabaret.
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.

    Cysylltwch â ni

    Cynadleddau

    Ystafell Oriel

    • Ystafell gynadledda fodern gyda rhesi o gadeiriau gwag yn wynebu sgrin fawr yn dangos delwedd a thestun, gydag acenion pren drwyddi draw.
    • Ystafell gynadledda gyda chadeiriau lliwgar, sawl bwrdd, sgrin taflunydd yn dangos pobl a drysau pren yn y cefndir.


    Ystafell Gyfarfod Dylan Thomas

    • Ystafell gynadledda gyda bwrdd mawr, cadeiriau lliwiau cymysg, dau ddrws pren a sgrin taflunydd.
    • Ystafell gynadledda wedi'i threfnu fel ystafell ddosbarth gyda rhesi o fyrddau a chadeiriau, taflunydd yn dangos golygfa oriel a dau ddrws pren.


    Ystafell Gyfarfod Augustus a Gwen John

    • Ystafell gyfarfod gyda bwrdd gwyn hirsgwar wedi'i amgylchynu gyda deuddeg cadair, rhai coch a rhai llwyd. Mae gan yr ystafell baneli pren ar y wal gefn, gyda sgrin fawr yn dangos delwedd o bobl mewn oriel.
    • Ystafell gynadledda gyda rhesi o gadeiriau gwag yn wynebu sgrin yn dangos dau berson yn sefyll o flaen paentiad.


    Ystafell Gyfarfod Lloyd George

    • Ystafell gynadledda fach gyda bwrdd petryalog, cadeiriau coch a llwyd, a sgrin yn dangos castell gyferbyn â wal â phaneli pren.
    • Ystafell gynadledda fach gyda bwrdd petryalog, wyth cadair, sgrin deledu wedi'i gosod ar y wal a phaneli pren.