Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Wedi'i lleoli'n gyfleus yng nghanol y ddinas, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnig lleoliad cyfarfod unigryw a chwbl wahanol i unrhyw un arall yn y brifddinas ac mae ein hystafelloedd cyfarfod hyblyg yn addas ar gyfer pob math o gyfarfodydd.
Wedi'u lleoli ar lawr gwaelod yr Amgueddfa, drws nesaf i'r Bwyty, mae ein hystafelloedd cyfarfod yn cynnwys taflunyddion, sgriniau a systemau PA pwrpasol. I’r dim ar gyfer gweithdai a chyflwyniadau AV. Mae gan yr ystafelloedd fynediad Wi-Fi pwrpasol ar gyfer digwyddiadau a gallwn gynnig cyfarfodydd hybrid. Gydag amryw o bosibiliadau o ran niferoedd a threfniant, gweler yr opsiynau isod i ganfod y man cyfarfod addas i chi.
Siaradwch â'n tîm i gael gwybod mwy am gymorth technegol pellach, adnoddau cyfarfodydd fel siartiau troi, papur ac i glywed am opsiynau arlwyo.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.
Cysylltwch â ni
Cynadleddau