Ystafelloedd Cyfarfod
Mae Ystafell y Glannau ac Ystafell y Ddinas, ein mannau cyfarfodydd mwyaf poblogaidd, wedi’u lleoli yn y warws hanesyddol ac yn llawn golau.
Mae gan Ystafell y Ddinas ffenestri mawr sy’n edrych dros y bwâu rheilffordd Fictoraidd ac mae’n llawn nodweddion gwreiddiol gan gynnwys ei nenfwd o drawstiau pren. Mae Ystafell y Glannau yn edrych allan dros y marina a’i longau.
Dyma lefydd delfrydol ar gyfer cyfarfodydd tîm, cyflwyniadau, gweithdai neu ardaloedd ymneilltuo ar gyfer cynadleddau.
Mae gan ein dwy ystafell gyfarfod gyfleusterau taflunydd a chlyweledol. Maen nhw’n llefydd cwbl hygyrch gan ddefnyddio lifft, ac mae gan Ystafell y Glannau ddrysau dwbl a gynorthwyir.
Mae lle yn ein hystafelloedd cyfarfod i 20 o bobl ar ffurf ystafell bwrdd, a 40 ar ffurf theatr.
Mae prisiau llogi’n dechrau o £300 + TAW yn dibynnu ar y gofynion. Mae opsiynau ar gyfer cyfarfodydd llai ar gael hefyd. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân. Cysylltwch â’n tîm ymroddedig i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich digwyddiad.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.