Datganiadau i'r Wasg

Mae cyrsiau coginio, coginio ar y cyd, a choctêls ar y fwydlen ar gyfer Gŵyl Fwyd Ddigidol Amgueddfa Cymru eleni

Bydd Gŵyl Fwyd Digidol Amgueddfa Cymru yn dychwelyd am yr ail waith rhwng 6 a 12 Medi 2021.

Mae’r digwyddiad digidol ar wefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol yr Amgueddfa, yn cymryd lle yr wŷl fwyd sydd fel arfer yn cael ei chynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a bydd yn cynnwys cyfres o gyrsiau, sgyrsiau, digwyddiadau cerddorol ac arddangosiadau coginio cyffrous.

Am wella eich sgiliau yn y gegin? Bydd yno amrywiaeth o gyrsiau coginio addas i bob oed, gan gynnwys cwrs patisserie gyda Thibauld Courtoisier, un o enillwyr Bake Off: The Professionals 2020, sesiwn goginio ar y cyd deuluol gyda Beca Lyne-Pirkis, a dosbarth meistr creu coctêls gyda chylchgrawn Blasus. Bydd y cogydd seren Michelin, Hywel Griffith, hefyd yn cyflwyno sesiwn goginio ar y cyd arbennig.

Bydd marchnad rithiol yn digwydd ar Facebook gyda dros 40 o fusnesau bwyd a diod Cymreig yn arddangos eu cynnyrch unigryw drwy gydol yr wythnos.

Mae Amgueddfa Cymru wedi cydweithio gyda Tafwyl a BBC Gorwelion unwaith eto i roi llwyfan i rai o dalentau cerddorol gorau Cymru mewn gig ar-lein arbennig ar ddydd Mercher 8 Medi. Bydd Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru – pobl ifanc sy’n gweithio gyda’r Amgueddfa i lywio agweddau amrywiol ar waith y sefydliad – hefyd yn trefnu gig ar ddydd Gwener 10 Medi, gan gyflwyno rhai o gerddorion gorau sîn gerddorol Cymru.

Bydd cyfres o sgyrsiau a thrafodaethau panel drwy’r wythnos yn trafod pynciau llosg y diwydiant, gan gynnwys bwydydd y byd a thueddiadau bwyd.

Gall teuluoedd hefyd lawrlwytho pecyn adnoddau arbennig yn llawn gweithgareddau bwyd hwyliog i’w gwneud gartref.

Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru:

“Rydym yn adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Fwyd Ddigidol y llynedd ac yn edrych ymlaen at gyflwyno rhaglen lawn arall o sgyrsiau, gweithgareddau, cyrsiau a gweithdai sy’n dathlu cynnyrch Cymreig arbennig ac yn rhoi llwyfan i fusnesau bwyd a diod Cymru arddangos eu talentau. Er taw siom yw methu cynnal y digwyddiad yn fyw o Sain Ffagan eleni, mae cyflwyno’r ŵyl ar-lein yn golygu y gallwn gyrraedd cynulleidfa ehangach ar draws Cymru a thu hwnt. Pleer hefyd yw croesawu ein partneriaid Tafwyl a BBC Gorwelion yn ôl er mwyn cyflwyno gig ar-lein arbennig i wylwyr fel rhan o’r rhaglen eleni.”

Dywedodd Thibault Courtoisier o Pâtisserie Verteof, a fydd yn cynnal cwrs patisserie fel rhan o’r ŵyl:  

“Mae’n gyffrous i gael cynnal sesiwn goginio ar y cyd patisserie arbennig fel rhan o’r Ŵyl Fwyd Digidol. Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr a phobyddion profiadol fel ei gilydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu ein sgiliau patisserie gyda phobyddion ar draws Cymru a thu hwnt.”

Dywedodd Little Grandma’s Kitchen, fydd yn cymryd rhan ym marchnad rithiol yr ŵyl:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y farchnad rithiol unwaith eto eleni. Mae’n ffordd wych i ni gyrraedd ein cwsmeriaid presennol ac i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.”

Digwyddiad rhad ac am ddim yw Gŵyl Fwyd Ddigidol Amgueddfa Cymru, ond rhaid prynu tocyn i rai digwyddiadau.

Bydd Gŵyl Fwyd Ddigidol Amgueddfa Cymru yn digwydd rhwng 6-12 Medi. I weld rhaglen lawn yr ŵyl, ewch i’r wefan.

⁠Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o amgueddfeydd y teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr ⁠Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. ⁠Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.

DIWEDD